Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dathlu cyfraniadau arbennig ein staff tuag at y maes plismona, ac mae angen eich cymorth chi arnom i helpu i ddatgelu’r swyddogion heddlu a’r aelodau staff hynny sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl a’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Mae’r wobr #Gofalu yn gyfle i’r cyhoedd enwebu swyddog heddlu, gwirfoddolwr neu aelod staff, a diolch iddo am ei ymdrechion. Gall fod yn SCCH lleol sydd wedi mynd i’r afael â mater cymunedol sydd wedi bod yn broblem ers amser maith, swyddog heddlu sydd wedi dangos gofal tuag at ddioddefydd trosedd, swyddog cyswllt ysgolion sydd wedi tywys plentyn drwy sefyllfa anodd, neu swyddog ymholiadau cyhoeddus dymunol wrth un o gownteri blaen ein gorsafoedd.
Dywedodd Claire Parmenter, Prif Gwnstabl Dros Dro Heddlu Dyfed-Powys: “Mae’r wobr #Gofalu yn fawr ei pharch yma yn Heddlu Dyfed-Powys oherwydd yr ydym wir yn gwerthfawrogi’ch adborth ac eisiau clywed sut mae ein haelodau staff wedi gwneud gwahaniaeth ichi.
“Os oes aelod o deulu Heddlu Dyfed-Powys wedi effeithio’n gadarnhaol ar eich cymuned, cysylltwch os gwelwch chi’n dda. Byddwn wrth fy modd yn clywed gennych.
“Edrychwn ymlaen at dderbyn eich enwebiadau.”
Mewn arolwg diweddar o fewn yr heddlu, dysgom fod gweithwyr Heddlu Dyfed-Powys yn gwerthfawrogi adborth cadarnhaol a chydnabyddiaeth fwyaf pan mae’n dod wrth aelod o’r cyhoedd, felly ni waeth pa mor fyr oedd eich profiad, gwerthfawrogir eich barn yn fawr.
Medrwch enwebu drwy’r post, drwy neges uniongyrchol ar unrhyw un o’n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol (yr ydym hefyd yn derbyn enwebiadau fideo), neu drwy gwblhau’r ffurflen enwebu hawdd ar-lein.
Os hoffech enwebu drwy’r post, cyfeiriwch eich enwebiad at: Gwobr #Gofalu, d/o. Cyfathrebu Corfforaethol, Pencadlys Heddlu Dyfed-Powys, Llangynnwr, Caerfyrddin, SA31 2PF.
Cofiwch gynnwys enw’r unigolyn yr ydych yn ei enwebu a’ch rhesymau dros ei enwebu (gan roi cymaint o fanylion â phosibl), yn ogystal â’ch enw a’ch rhif cyswllt. Dydd Mercher 13 Hydref 2021 yw’r dyddiad cau.
Cyhoeddir y wobr #Gofalu ddydd Gwener 19 Tachwedd 2021 yn Seremoni Wobrwyo Flynyddol 2021 rithwir Heddlu Dyfed-Powys.