Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys a safleoedd trwyddedig, awdurdodau lleol a swyddogion cyswllt ysgolion yn dod at ei gilydd er mwyn mynd i’r afael â’r defnydd o brawf adnabod ffug. Yn anffodus, nid yw’r defnydd o brawf adnabod ffug yn broblem newydd ac mae safleoedd trwyddedig ledled yr ardal heddlu’n sylwi ar gynnydd yn y gweithgarwch hwn ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys pobl yn defnyddio prawf adnabod ffug, yn ogystal â phobl yn defnyddio prawf adnabod dilys sy’n eiddo i rywun arall.
Gallai unrhyw un sy’n defnyddio prawf adnabod ffug neu’n esgus bod yn rhywun arall drwy ddefnyddio ei brawf adnabod dilys fod yn cyflawni nifer o droseddau, a allai arwain at rybudd, dirwy, neu ddedfryd posibl o hyd at 10 mlynedd o garchar. Mae'r rhain yn cynnwys dau drosedd o dan Ddeddf Hunaniaeth 2010, un trosedd o dan Ddeddf Twyll 2006 ac un trosedd o dan Ddeddf Ffugio a Drwgfathu 1981.
Dywedodd Louise Bradshaw, swyddog trwyddedu, “Mae rhai o’r profion adnabod ffug sy’n cael eu cynhyrchu’n drwyddedau gyrru ffug da iawn, ac mae plant 16 ac 17 oed yn defnyddio'r rhain i gael mynediad i safleoedd trwyddedig. Mae’r rhain yn aml yn cael eu prynu ar-lein, felly mae’n bwysig fod rhieni’n ymwybodol ac yn sgwrsio gyda’u plant am yr hyn maen nhw’n ei wneud ar-lein.
"Gwyddom i gyd fod oblygiadau o ran perygl i iechyd yn gysylltiedig ag alcohol, ond mae’n gwneud pobl yn agored i niwed hefyd. Yr ydym eisiau sicrhau bod pobl ifainc yn cael eu diogelu. Nid oes gan safleoedd trwyddedig y pŵer i atafaelu prawf adnabod ffug. Serch hynny, mae’n rhaid iddynt gynnal amcanion penodol o dan y Ddeddf Trwyddedu, sef amddiffyn plant rhag niwed, atal trosedd ac anhrefn, niwsans cyhoeddus a diogelwch cyhoeddus. Fodd bynnag, mae gan bawb ohonom ddyletswydd gofal i warchod plant rhag niwed a sicrhau nad ydynt yn dioddef trosedd neu’n canfod eu hunain mewn sefyllfaoedd lle maen nhw’n agored i niwed.
"Byddwn yn parhau i weithio gydag ysgolion, colegau a chymunedau ledled yr ardal heddlu er mwyn hysbysu athrawon, rhieni a phobl ifainc am berygl a chanlyniadau posibl defnyddio prawf adnabod ffug. Bydd safleoedd trwyddedig yn parhau i wneud beth bynnag y medrant, ac rydym yn eu hannog i adrodd am ddigwyddiadau, ond mae gan rieni, athrawon, brodyr, chwiorydd a ffrindiau i gyd ran i’w chwarae.”
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y defnydd o brawf adnabod ffug adrodd amdano wrth Heddlu Dyfed-Powys ar-lein ar https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/, drwy anfon e-bost at [email protected], neu drwy alw 101. Os ydych chi’n fyddar, yn drwm eich clyw, neu â nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys 07811 311 908.
Fel arall, cysylltwch â’r elusen annibynnol Crimestoppers Cymru’n ddienw drwy alw 0800 555111, neu drwy alw heibio i crimestoppers-uk.org.