Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ar 14 Ebrill 2022, bydd Heddlu Dyfed-Powys yn cymryd rhan yn Ymgyrch Seabird gyda'r Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid, Cyfoeth Naturiol Cymru a heddluoedd eraill Cymru. Ymgyrch genedlaethol yw Ymgyrch Seabird sy’n anelu i ennyn diddordeb pobl a’u haddysgu am sensitifrwydd yr arfordir, a sut y gallai newidiadau syml mewn ymddygiad leihau’r pwysau ar ein bywyd gwyllt unigryw.
Felly, pa fath o aflonyddu ar fywyd gwyllt sy’n digwydd ar arfordir Cymru?
Gwrthdrawiadau: Unrhyw wrthdrawiad rhwng unrhyw ran o fad ac anifail morol byw yw gwrthdrawiad llong. Mae gwrthdrawiadau’n aml yn arwain at drawma corfforol neu farwolaeth ar gyfer y bywyd gwyllt morol.
Aflonyddwch sŵn: Gall sŵn gormodol aflonyddu ar fywyd gwyllt, gan achosi newidiadau amlwg mewn ymddygiad. Gall hefyd ymyrryd ar allu anifail i gyfathrebu, llywio, osgoi perygl a dod o hyd i fwyd, gan effeithio yn y pen draw ar iechyd a goroesiad nifer o rywogaethau morol.
Aflonyddwch gweledol: Mae tystiolaeth bod ymddygiad anifeiliaid morol yn newid yn negyddol ym mhresenoldeb gweithgarwch dynol. Mae gan unrhyw weithgarwch y potensial i achosi aflonyddwch gweledol a gall achosi gofid, amser gorffwys llai, ymddygiad osgoi neu ymddygiad ymosodol mewn bywyd gwyllt.
Dywedodd y Rhingyll Matthew Langley o’r Tîm Troseddau Gwledig, “Mae Ymgyrch Seabird yn fenter sy’n cael ei chynnal rhwng yr heddlu ac asiantaethau partner ledled Cymru. Nod Ymgyrch Seabird yw gorfodi, ac ymgysylltu â’r cyhoedd a’u haddysgu er mwyn sicrhau eu bod nhw’n mwynhau ein harfordir hardd mewn modd diogel a chyfrifol. Y llynedd, gwelsom gynnydd mawr yn nifer y troseddau aflonyddu, a hynny’n bennaf oherwydd morfarch enwog a ddaeth ar ei wyliau i Ddinbych-y-pysgod! Mae’n bwysig i’r cyhoedd fod yn ymwybodol hefyd y gallant fod yn cyflawni troseddau o dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad drwy darfu ar fywyd gwyllt.”
Os ydych chi allan yn crwydro’r arfordir, gofynnwn ichi gofio bod unrhyw weithgarwch yn medru aflonyddu ar fywyd gwyllt os nad yw’n cael ei gynnal mewn modd cyfrifol a diogel. Er mwyn lleihau aflonyddu ar fywyd gwyllt ar y dŵr, cynghorwn y canlynol:
Yn ogystal ag addysgu a chodi ymwybyddiaeth drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol a’r cyfryngau lleol, byddwn yn gweithio gydag asiantaethau partner er mwyn cynnal “diwrnodau gweithredu” drwy gydol yr haf. Bydd y diwrnodau gweithredu hyn yn gweld swyddogion lifrog wrth safleoedd lansio ac o gwmpas arfordir Dyfed-Powys. Byddant yn ymweld â busnesau, yn ymgysylltu â’r cyhoedd ac yn eu haddysgu er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r problemau y gall rhai gweithgareddau hamdden achos i i’n bywyd gwyllt arfordirol.
Felly os ydych chi’n ymweld â’n harfordir hardd yr haf hwn, mwynhewch eich hun, ond ystyriwch y bywyd gwyllt o’ch cwmpas. Medrwch ddarllen y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith ni ac asiantaethau partner drwy ddilyn #YmgyrchSeabirdCymru ar gyfryngau cymdeithasol.