Stamp amser presennol: 04/08/2026 08:38:05
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Dyn camdriniol wedi dal cyllell yn erbyn gwddf ei bartner a bygwth ei lladd

Cynnwys y prif erthygl

Sir Benfro
Cyhoeddwyd: 14:28 27/04/2022

Mae sboner rheolaethol a ddaliodd gyllell yn erbyn gwddf ei bartner a bygwth ei lladd o flaen dwy ferch yn eu harddegau wedi’i garcharu am 33 mis.

I gychwyn, gwadodd Elliot Kershaw, 43 oed, o Wesley Court, Stryd Warren, Dinbych-y-pysgod, bob trosedd, ond yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun 25 Ebrill, plediodd yn euog i affräe a niwed corfforol gwirioneddol.

Galwyd Heddlu Dyfed-Powys i Heol Trafalgar, Dinbych-y-pysgod, ar 21 Hydref 2020 yn dilyn galwad 999 y rhoddwyd y gorau iddi gan ddynes. Roedd sŵn ffrwgwd i’w glywed yn y cefndir. 

Pan gyrhaeddodd swyddogion, siaradon nhw â’r dioddefydd, ei merch a ffrind ei merch, a oedd wedi’u hysgwyd gan y profiad.

Sefydlwyd bod Kershaw wedi bygwth “llofruddio” y dioddefydd, “cicio ei phen i mewn” a “mynd o’i go” o flaen y plant, cyn mynd allan o’r ystafell fyw mewn tymer a dychwelyd â chyllell o’r gegin.

Dywedodd tystion ei fod yn dal y gyllell uwch ei ben ac yn cadw dweud, “Fe weli di, fe weli di. Wyt ti eisiau imi ddangos iti?”. Roedd ei wyneb yn wyllt gacwn.

Yna, disgrifiwyd ei fod yn dal y gyllell o’i flaen ac yn parhau i fygwth y dioddefydd wrth ddal blaen y gyllell yn agos i’w gwddf.

Arestiwyd Kershaw yn y fan a’r lle.

Yn ystod yr ymchwiliad dilynol, rhoddodd y dioddefydd ddatganiadau pellach a ddatgelodd ymosodiadau blaenorol, yn ogystal ag ymddygiad rheolaethol a gorfodol gan Kershaw drwy gydol eu perthynas 2 flynedd.

Roedd hyn yn cynnwys cenfigen eithafol pan nad oedd y dioddefydd gydag ef, rhwystro cyswllt gyda theulu a ffrindiau, trais, a hyd yn oed ei dilyn pan oedd hi ar noson allan gyda ffrindiau gwaith.

Adroddodd y dioddefydd ei bod hi’n eistedd ar y soffa ddydd Iau 9 Ionawr 2020 pan ddechreuodd Kershaw deimlo’n grac am rywbeth, a’i fod wedi sefyll i fyny a chicio ei hwyneb, gan gleisio ei boch. Ni adawodd Kershaw’r dioddefydd fynd i’r gwaith nac ateb y drws y diwrnod canlynol gan fod y clais yn amlwg.

Roedd Kershaw yn y llys ddydd Llun pan blediodd yn euog i affräe ar gyfer y digwyddiad ar 21 Hydref 2020, yn ogystal â niwed corfforol gwirioneddol a ddigwyddodd o’r blaen yn ystod y berthynas. Derbyniwyd hyn gan y dioddefydd a’r erlyniad.

Derbyniodd ddedfryd o 33 mis o garchar a gorchymyn atal 5 mlynedd a oedd yn cynnwys y dioddefydd a’i merch.

Mewn datganiad i’r llys, dywedodd y dioddefydd ei bod hi wedi symud tŷ o ganlyniad i’r cam-drin i gartref a oedd yn teimlo’n fwy diogel.

Ychwanegodd, “Wrth edrych nôl ar y berthynas nawr ei bod hi wedi dod i ben, a nawr fy mod i wedi cael rhywfaint o bersbectif, er fy mod i’n cwestiynu fy nealltwriaeth o’r hyn sy’n dderbyniol mewn perthnasau, rwy’n sylweddoli mor wenwynig oedd y berthynas. 

“Rwy’n medru gweld mor anhapus yr oedd pawb ohonom yn y berthynas, a sut oedd y tŷ byth wir yn teimlo fel ein tŷ ‘ni’ oherwydd presenoldeb Elliot a’i ddylanwad ar y ddwy ohonom pan oeddem yno. Yr oedd yn teimlo mwy fel carchar na chartref.

“Mae’r holl sefyllfa wedi bod yn straen anferthol arnaf yn emosiynol gan fy mod i hefyd yn gofalu am fy rhieni oedrannus ac yn ceisio amddiffyn fy merch, ac weithiau, claddais fy mhen yn ddwfn yn y tywod gan fod dyddiau pan nad oeddwn i’n medru wynebu’r hyn oedd yn digwydd, ac mae dal dyddiau pan mae’n cymryd fy holl egni i weithredu o bryd i’w gilydd. Mae cywilydd arnaf ac rwy’n teimlo bod y berthynas hon, a’r diwedd treisgar, wedi gwneud imi sylweddoli pa mor fregus oeddwn i, a pha mor fregus ydw i o hyd.”

Gan siarad ar ôl yr achos, diolchodd i’r swyddogion a oedd yn rhan o’r ymchwiliad, gan ychwanegu ei bod hi a’i merch yn teimlo eu bod nhw wedi cael eu cefnogi ac wedi cael tawelwch meddwl drwy gydol yr ymchwiliad a’r broses lys.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Joe Hartnell, y swyddog ymchwilio, “Nid yw trais yn erbyn menywod a merched byth yn dderbyniol, ac rydyn ni fel heddlu’n gweithio’n galed i’w atal rhag digwydd yn ein hardal ni. 

“Yr ydym yn fodlon â chanlyniad yr achos hwn, ac yn gobeithio ei fod yn cynnig rhywfaint o gysur i ddioddefwyr ac yn rhybudd i unrhyw un sy’n cam-drin.

“Os ydych chi’n dioddef wrth law rhywun, cysylltwch â ni os gwelwch chi’n dda. Byddwn yn eich cefnogi ac yn eich arwain drwy’r broses.

“Mae’n bwysig hefyd rhoi gwybod inni os ydych chi’n gweld neu’n clywed rhywun yn cael ei gam-drin – peidiwch â gadael i bethau fod. Gallwn ond gweithredu os ydyn ni’n gwybod beth sy’n digwydd.”

Medrwch roi gwybod i Heddlu Dyfed-Powys ar-lein ar: https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/, drwy anfon e-bost at [email protected], neu drwy alw 101.

Fel arall, cewch siarad â gwasanaeth cymorth dioddefwyr Goleudy ar 0300 1232996 neu drwy anfon e-bost at [email protected], neu Crimestoppers Cymru drwy alw 0800 555111, neu drwy alw heibio i crimestoppers-uk.org.

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.