Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi rhyddhau e-lun o ddyn yr hoffent siarad ag ef fel rhan o’u hymchwiliad i honiad o drosedd trais yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd.
Yr oedd ym mhabell Chai Wallahs yn ystod oriau mân y bore ddydd Sul.
Disgrifir y troseddwr fel dyn yn ei ugeiniau canol, 5’ 11”, o gorffolaeth ganolig, â gwallt brown golau a thalcen mawr. Dywedir mai dyn gwyn ydyw ond bod ganddo liw haul.
Credir bod llygaid tywyll ac aeliau trwchus ganddo, ac roedd yn gwisgo het iâr, siwmper wlân gwead mân (browngoch o bosibl), a jîns tynn.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Fay Lantos: “Yr ydym yn awyddus i adnabod y dyn hwn, a allai’n cynorthwyo â’n hymholiadau”.
“Os mai chi yw’r dyn hwn, rydych chi’n gwybod pwy ydyw, neu os oes gennych luniau ohono o’r ŵyl, cysylltwch â ni os gwelwch chi’n dda.”
DIWEDDARIAD (31/08/22) | Mae swyddogion sy’n ymchwilio i honiad o drais yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd ym Mhowys wedi arestio rhywun.
Digwyddodd yr arést ar ôl rhyddhau e-lun ddydd Gwener 26 Awst.
Ers hynny, y mae wedi’i ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.
Nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad hwn ar hyn o bryd. Hoffem ddiolch i bawb a rannodd yr apêl.
Mae’r ddelwedd o’r apêl wedi’i thynnu yn ôl yn awr.