Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gorchymyn cau sy’n gwahardd ymwelwyr i gyfeiriad yn Llanelli am dri mis wedi’i wneud gan y llysoedd.
Gwnaeth Heddlu Dyfed-Powys gais am orchymyn cau er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol ac anhrefn yn 36 Stryd Murray.
Cyflwynodd adran Gwasanaethau Cyfreithiol yr heddlu dystiolaeth i Lys Ynadon Llanelli, a chaniatawyd yr hysbysiad ddydd Iau 4 Awst.
Rhwng 8 Medi 2021 a 22 Mehefin 2022, derbyniodd yr heddlu dros 60 o alwadau i’r cyfeiriad am faterion a oedd yn amrywio o ddwyn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol i ymosodiadau a lladradau.
Am y tri mis nesaf, mae unrhyw un heblaw’r bobl a enwyd gan y llysoedd wedi’u gwahardd rhag ymweld â’r eiddo.
Dywedodd Cwnstabl Aled Davies, “Nid yn aml y mae hysbysiad cau’n cael ei gyhoeddi ar gyfer eiddo preswyl. Ystyriwyd y mater yn ofalus, a theimlwyd mai hwn oedd y cam mwyaf priodol ar gyfer lleihau’r ymddygiad gwrthgymdeithasol a oedd yn digwydd yno, a gwella ansawdd bywyd preswylwyr eraill.
“Dim ond y tenantiaid ac ambell unigolyn arall a enwyd sydd â chaniatâd i fod yn y cyfeiriad. Maent yn ymwybodol o’r gorchymyn cau.
“Bydd unrhyw un arall sy’n cael ei weld yn ymweld â’r eiddo’n gweithredu’n groes i’r gorchymyn ac yn wynebu dirwy, carchar, neu’r ddau.
“Er mwyn adrodd am bobl eraill sy’n cael eu gweld yn ymweld â’r cyfeiriad, galwch yr heddlu ar 101 yn syth.”
Mae adran Gwasanaethau Cyfreithiol Heddlu Dyfed-Powys wedi llwyddo i sicrhau nifer o orchmynion cau ledled yr ardal heddlu dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae’r heddlu hefyd yn rhoi cymorth a chefnogaeth pan mae awdurdodau lleol o fewn yr ardal heddlu’n ceisio gorchmynion cau.
Gellir defnyddio gorchymyn cau o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, i alluogi’r heddlu i gau eiddo er mwyn rhoi taw yn gyflym ar yr ymddygiad gwrthgymdeithasol sydd wedi bod yn digwydd yno. Gellir cau eiddo am 48 o oriau heb fod angen mynd i’r llys i gael caniatâd i wneud hynny. Drwy wneud cais yn y llysoedd, gellir cael gorchmynion cau sy’n weithredol am hyd at dri mis.