Stamp amser presennol: 04/08/2026 07:03:14
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Heddlu Dyfed-Powys, Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn cyhoeddi cydweithio cyffrous newydd ar hyfforddiant swyddogion, yn Eisteddfod Tregaron

Cynnwys y prif erthygl

Ceredigion Powys Sir Benfro Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd: 16:20 02/08/2022

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn falch i gyhoeddi bydd y swyddogion newydd dan hyfforddiant sy’n dechrau eu hyfforddiant yn Mis Medi 2022 yn gallu gwneud hynny, mor bell a phosib, trwy gyfrwng y Gymraeg, os ydynt yn dymuno.

Mae’r llu yn cydweithio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol De Cymru I gynyddu’r cyfleoedd I recriwtiaid sy’n siarad Cymraeg i wneud cymaint o’r hyffoddiant yn Gymraeg ag sy’n bosib. Mae gan swyddogion dan hyfforddiant gyfnod cychwynnol pan eu bod yn y Pencadlys ar gyfer hyfforddiant cychwynnol, a chyfnod dilynol lle eu bod yn hyfforddi yn y swydd yn ein Hardaloedd Plismona Lleol. Trwy gydol y cyfnod cychwynnol yn y Pencadlys maent yn cael mewnbynnau cyfreithiol, ymarferol ac academig.  

Dywedodd Prif Gwnstabl Dr Richard Lewis: “Mae’r iaith Gymraeg yn rhan annatod o nifer fawr o’r cymunedau rydym yn plismona yn ardal Dyfed-Powys, ac mae’n bwysig dros ben i ni ddangos parch i’n cymuedau Cymraeg a Chymreig  trwy fedru cynnig gwasanaeth plismona cwbwl ddwyieithog i nhw. Rydym yn hynod falch I fod yn mewn sefyllfa i gynnig hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg i’r recriwtiaid newydd fydd yn cychwyn eu taith gyda ni yn Mis Medi – fel bod nhw’n gallu cael eu hyfforddi yn eu dewis iaith a bod yn hyderus ar ol yr hyfforddiant yn cyfathrebu yn y Gymraeg. Bydd yna hefyd ddisgwyl i’r rhai sy’n medru’r Gymraeg gefnogi ac annog y swyddogion dan hyfforddiant di-Gymraeg neu dysgwyr fel bod nhw hefyd yn gallu datblygu eu sgiliau iaith Gymraeg. Mae hyn yn dddatblygiad cyffrous iawn i’r llu, ac rwyf wedi ymrwymo i wneud bob dim posib i hybu’r iaith Gymraeg yn Heddlu Dyfed-Powys.” 

Trwy’r cyfnod dilynol (blwyddyn dau a tri) mae’r swyddogion dan hyfforddiant yn parhau I dderbyn mewnbynnau academig lle mae’n ofynnol iddynt barhau â thrafodaethau proffesiynol gyda darlithwyr, a gwneud cyflwyniadau academig fel aseiniadau a thraethodau.

Mae yna gyfran uchel o’r boblogaeth yn ardal Dyfed-Powys yn siarad Cymraeg iaith gyntaf, ac rydym wedi ymrwymo I gyflawni ein dyletswydd I gynnig gwasanaeth dwyieithog i’r gymuned hynny, ac I fedru cyfathrebu yn hyderus gyda’r cyhoedd yn Gymraeg neu Saesneg. 

Dywedodd Dr Dafydd Trystan, Cofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Mae datblygu gweithlu dwyieithog yn rhan allweddol o gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg sy'n defnyddio'r Gymraeg yn rheolaidd. Mae’r Coleg yn falch iawn i fod yn cydweithio gyda Heddlu Dyfed Powys a Phrifysgol De Cymru i ehangu'r hyfforddiant dwyieithog sydd ar gael i ddarpar heddweision, Mae agwedd rhagweithiol Heddlu Dyfed Powys, y Prif Gwnstabl a'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn esiampl i'w dilyn gan eraill ar draws y sector gyhoeddus.”

Ychwanegodd Comsiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn: “Rwy’n falch iawn o’r camau sy’n cael eu cymeryd er mwyn datblygu gweithlu dwyieithog o fewn Heddlu Dyfed-Powys.  Mae canran uchel o boblogaeth ardal Dyfed-Powys yn siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf, ac felly mae dyletswydd arnom ni i sicrhau ein bod yn gallu darparu gwasanaeth dwyieithog yn ddi-os, a bod gennym weithlu sydd a’r sgiliau i gyfathrebu gyda’r cyhoedd yn hyderus yn y Gymraeg a’r Saeseg.   Rwy’n  ddiolchgar iawn i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am ddarparu arweiniad a chefnogaeth i ni wrth gynllunio i ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar raglenni hyfforddiant swyddogion yr heddlu., ac am gefnogi gweledigaeth y Prif Gwnstabl a minnau.”

Bydd deunydd dysgu ar gyfer mewnbynnau cyfreithiol ar gael I’r swyddogion dan hyfforddiant, mewnbynnau ymarferol yn cael eu datblygu ar gyfer chwarae rôl, hyfforddi gyrru a chyfweld yn Gymraeg, ac o ran y mewnbynnau academig mae Prifysgol De Cymru yn cynnyddu’r cyfleoedd ar gyfer myfyrwyr I ymgysylltu â nhw yn Gymraeg. Byddant yn gallu cyflwyno eu gwaith yn Gymraeg, cael trafodaethau proffesiynol yn Gymraeg, a deunydd academig yn cael eu darparu yn Gymraeg.  

Bydd myfyrwyr yn gallu gwneud cais am fwrsari o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol lle gellir profi bod traean o’u cymhwyster academig wedi ei gyflawni yn Gymraeg.  

Bydd swyddogion dan hyfforddiant di-Gymraeg neu dysgwyr hefyd yn cael cyfleoedd I ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg trwy senarios ymarferol lle bydd angen I nhw ymgysylltu yn Gymraeg, gweithdai ychwanegol I ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg, a bydd y swyddogion dan hyfforddiant sy’n siarad Cymraeg yn actio fel mentoriaid I nhw trwy gydol y rhaglen.  

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.