Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a lofruddiodd menyw 18 oed wedi’i ddedfrydu i oes o garchar, gyda lleiafrif o 23 mlynedd 4 mis heddiw.
Llofruddiwyd Lily Sullivan ym Mhenfro yn ystod oriau mân y bore ddydd Gwener 17 Rhagfyr 2021 ar ôl noson allan gyda ffrindiau.
Galwyd yr heddlu ychydig ar ôl 4.10 o’r gloch y bore a chawsant wybod bod ymosodiad wedi digwydd yn ardal Pwll y Felin. Arweiniodd hyn at ddarganfod Lily yn y dŵr ychydig ar ôl 4.30 o’r gloch y bore hwnnw. Achubwyd Lily o’r dŵr, ond er waethaf ymdrechion caled parafeddygon a’r heddlu, bu farw Lily o’i hanafiadau.
Nododd archwiliadau fforensig bod Lily wedi dioddef ymosodiad treisgar a bod achos ei marwolaeth yn gyson â chrogi.
Arestiwyd Lewis Haines, 31 oed, yn gyflym a chafodd ei gyhuddo o’i llofruddio ar 20 Rhagfyr 2021.
Plediodd Haines yn euog i ddynladdiad ac yn ddieuog i lofruddiaeth ym mis Mai eleni ac yr oedd i fod i sefyll ei brawf am lofruddiaeth ar 20 Mehefin. Fodd bynnag, newidiodd ei ble i euog o lofruddiaeth ar 13 Mehefin oherwydd cryfder y dystiolaeth a gyflwynwyd yn ei erbyn.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd Richard Yelland:
“Ar nos Iau 16 Rhagfyr 2021, mwynhaodd Lily Sullivan, 18 oed, noson allan gyda ffrindiau ac ni ddychwelodd adref.
“Yn gynnar fore trannoeth, cymerodd gweithredoedd treisgar ac ysglyfaethus Lewis Haines fywyd Lily. Anwybyddodd Haines sawl cyfle i geisio cymorth i Lily wrth adael lleoliad ei drosedd. Mae ei weithredoedd hunanol a chreulon wedi newid bywydau’r rhai a oedd yn adnabod ac yn caru Lily, a chymuned glos Penfro.
“Mae’r ddedfryd oes a roddwyd i Lewis Haines heddiw’n sicrhau na fydd yn medru niweidio eraill yn y gymuned. Bydd Heddlu Dyfed-Powys a’n partneriaid yn parhau i weithio’n ddiflino er mwyn dwyn y rhai sy’n cyflawni trais yn erbyn menywod a merched ym mhob ffurf i gyfiawnder.
“Nid yw’r ddedfryd hon yn unrhyw gysur i deulu a ffrindiau Lily, ond rwy’n gobeithio y bydd hyn yn gam ymlaen yn y broses araf o ailadeiladu eu bywydau. Heddiw, mae fy meddyliau gyda nhw’n llwyr.”