Stamp amser presennol: 04/08/2026 07:04:56
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Prif Gwnstabl Heddlu-Dyfed Powys yn croesawu adroddiad archwiliad PEEL diweddaraf AHGTAEM

Cynnwys y prif erthygl

Ceredigion Powys Sir Benfro Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd: 10:30 18/08/2022

Mae Arolygiaeth Heddluoedd a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (AHGTAEM) wedi cyhoeddi adroddiad sy’n dangos tystiolaeth o welliannau sylweddol ar draws nifer o feysydd gwaith allweddol yn Heddlu Dyfed-Powys.

Ym mis Mai y llynedd, cyflwynodd yr arolygiaeth hefyd achos pryder carlam i’r heddlu yn ymwneud â safonau cofnodi troseddau, ond ym mis Mehefin 2022 cadarnhawyd bod Heddlu Dyfed-Powys wedi gwneud cynnydd da, wedi gwella ym mron pob agwedd ar gofnodi troseddau a bod yr achos pryder wedi ei ddileu.

Pan ddechreuodd y Prif Gwnstabl Dr Richard Lewis yn ei swydd ym mis Rhagfyr y llynedd, ymrwymodd i sicrhau y byddai'r heddlu’n darparu gwasanaeth i'r safon y byddai'r gweithlu ei eisiau ar gyfer eu hanwyliaid pe bai ei angen arnynt byth.

Ac mae adroddiad heddiw yn galonogol, gyda gwelliannau wedi’u nodi drwy gynydd mewn graddau mewn pedwar maes asesu.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Dr Richard Lewis: “Does neb yn hoffi clywed y dylen nhw fod yn gwneud yn well, yn enwedig sefydliad sydd â’r prif swyddogaeth o ddiogelu’r rhai sydd ein hangen ni fwyaf.

“Rwy'n falch iawn o ddweud bod yr achos pryder wedi'i ddileu wedi i ni allu dangos tystiolaeth o welliannau sylweddol ac mewn amser byr.

“Ac mae cyhoeddi’r adroddiad llawnach hwn heddiw yn galonogol, gyda gwelliannau wedi’u nodi mewn pedwar maes asesu sef – gwasanaeth dioddefwyr, cywirdeb data trosedd, ymchwilio i droseddau, a rheoli troseddwyr. Mae hyn yn nodi gwelliant sylweddol yn y gwasanaeth rydym ni’n eu ddarparu.

“Rydym bellach yn monitro ein perfformiad yn ddyddiol, yn wythnosol ac yn fisol ac rydym wedi bod yn gwneud hyn ers sawl mis. Mae hyn yn ein gosod ar drywydd cadarnhaol a adlewyrchir yn adroddiad heddiw.

“Ein hymgais ni yn Heddlu Dyfed-Powys yw gwella’n barhaus, bod yn well heddiw nag yr oeddem ddoe, ac yn well yfory na heddiw.

“Mae gweithio fel hyn gyda meddylfryd o wella parhaus yn ddull cynaliadwy a synhwyrol ac mae eisoes wedi dwyn ffrwyth sylweddol.”

Un o’r meysydd y mae’n falch o’r gwelliannau gweithredol a wnaed yn Heddlu Dyfed-Powys yw stopio a chwilio. Drwy osod gweledigaeth i wella’n barhaus, yn hytrach na gosod targedau mympwyol, mae’r heddlu wedi gweld cynnydd o 71% o ran stopio a chwilio yn y chwe mis diwethaf, o’i gymharu â niferoedd y llynedd – a chanlyniad hynny yw gwaredu ein strydoedd o fwy o gyffuriau ac arfau er mwyn cadw’n plant yn ddiogel.

Ychwanegodd Dr Lewis: “Fodd bynnag, dydyn ni ddim yn hunanfodlon ac ni fyddwn yn stopio i ddathlu’r gwelliannau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn.

“Ond yn lle hynny byddwn yn canolbwyntio ar ein hawydd i wella ymhellach o fewn y meysydd a nodir gan yr arolygiaeth a’r adborth hollbwysig gan ein cymunedau, sydd yr un mor werthfawr, os nad yn fwy felly nag un yr arolygiaeth.

“Hoffwn ddiolch i’r Comisiynydd, Dafydd Llywelyn am ei gefnogaeth a gwaith caled ein staff, ein swyddogion a’n gwirfoddolwyr anhygoel yn Heddlu Dyfed-Powys sy’n gweithio’n ddiflino bob dydd. Eu gwaith hwy sydd wedi ei wireddu yn y gwelliannau hyn.

“Rwy’n eich annog i ddarllen yr adroddiad llawn i gael y manylion, ac mae llawer i’w wneud o hyd. Ond, fel y Prif Gwnstabl yma, rwy’n edrych ymlaen at weld Dyfed-Powys yn chwarae ei rhan lawn yn y gwaith o gynnal a chreu cymunedau cryf a gwydn yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru dros y blynyddoedd i ddod.”

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.