Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae 32 o bobl wedi’u harestio yn ystod ymgyrch lle y rhoddwyd pecynnau arbenigol i swyddogion rheng flaen yn Aberystwyth ar gyfer profi gyrwyr am gyffuriau.
Cynhaliodd Heddlu Dyfed-Powys dreial deufis o hyd a welodd pecynnau ar gyfer profi am gyffuriau’n cael eu rhoi i swyddogion ymateb i’w galluogi i brofi gyrwyr am olion cyffuriau yn dilyn gwrthdrawiadau ac wrth stopio cerbydau ar ôl derbyn cudd-wybodaeth.
Tan nawr, mae’r pecynnau hyn wedi’u defnyddio gan unedau plismona’r ffyrdd, ond nod y treial hwn yw ehangu profion ar ochr y ffordd er mwyn adnabod ac erlyn gyrwyr ar gyffuriau, a fydd, yn ei dro, yn gwella diogelwch ar y ffyrdd.
Hyd yn hyn, mae 25 o yrwyr wedi’u harestio am yrru dan ddylanwad cyffuriau ac mae 5 wedi’u harestio am yfed a gyrru yn ystod Ymgyrch Madron.
Arestiwyd dau ddyn yn ystod gweithdrefnau stopio a chwilio – un ar amheuaeth o feddu ar gyffuriau dosbarth A â’r bwriad i werthu, ac un arall sy’n cael ei amau o fod yn gysylltiedig â giang troseddu trefnedig o Lundain.
Dywedodd Ross Evans, Uwch-arolygydd Ceredigion: “Yr ydym yn poeni am nifer y gyrwyr sy’n cael eu harestio yn y sir hon am yrru dan ddylanwad cyffuriau.
“Yr ydym yn gweithio’n galed i ddatrys y math hwn o drosedd, a thrwy roi’r pecynnau hyn i swyddogion lleol, yr ydym yn gwneud ymdrech fawr i ganfod a phrofi gyrwyr yr ydym yn eu hamau o yrru’n anghyfreithlon.
“Bydd unrhyw yrrwr sy’n cael ei ddal yn cael ei erlyn.
“Medraf sicrhau’r cyhoedd ein bod ni’n trin y mater hwn o ddifrif, ac anogaf unrhyw un sydd â gwybodaeth neu bryderon i gysylltu â ni.”
Cynhaliwyd 86 proses stopio a chwilio yn ystod yr ymgyrch hon, gan arwain at atafaelu cocên, canabis a chanabis llysieuol gwerth dros £1000 ar y stryd. Yn ogystal, daethpwyd o hyd i fwyell ac adenillwyd beic modur.
Dywedodd y Rhingyll Adam Hodgkinson: “Yr ydym hefyd yn gweithio’n galed er mwyn ceisio torri’r cylch aildroseddu, ac mewn ymdrech i helpu’r bobl hynny sydd â phroblemau cyffuriau, mae chwech o bobl wedi’u cyfeirio at Wasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed yn dilyn profion cyffuriau cadarnhaol ar ôl iddynt gael eu harestio ar gyfer sylweddau dosbarth A.”
Mae’r treial wedi rhoi’r fantais i swyddogion dethol ymdrin â gyrwyr ar gyffuriau â’r hyfforddiant a’r offer gofynnol. Mae gan swyddogion sydd â mynediad i’r pecynnau fwy o gyfleoedd i fynd i’r afael â blaenoriaethau’r Prif Gwnstabl, yn enwedig mewn perthynas â gwneud ardal Dyfed-Powys yn amgylchedd gelyniaethus ar gyfer cyffuriau.
Cysylltwch â ni os ydych chi’n poeni bod rhywun yn defnyddio sylweddau anghyfreithlon:
🖥️ | https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/
📞 | 101