Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymddangosodd Marcus Aaron Yeldham, 43 oed, o’r Stryd Fawr, Aberystwyth, a Tobias Cribbett, 37 oed, o Sgwâr Alban, Aberaeron, gerbron Llys y Goron Abertawe i gael eu dedfrydu ddydd Gwener (16 Rhagfyr).
Dedfrydwyd Yeldham i saith blynedd a hanner o garchar, a dedfrydwyd Cribbett i dair blynedd o garchar.
Daw eu heuogfarn yn dilyn ymchwiliad sylweddol gan Heddlu Dyfed-Powys, a ddechreuodd ar ôl i swyddogion stopio Cribbett yn ei gar ar 27 Ionawr 2021.
Cafodd ei arestio ar amheuaeth o feddu â’r bwriad o werthu, ac yn dilyn sgan, canfu ei fod yn cuddio cyffuriau yn ei rectwm. Adenillwyd y cyffuriau’n ddiweddarach. Tua £1,380 oedd gwerth y cyffuriau hyn.
Dyddiau’n ddiweddarach, ar 2 Chwefror 2021, arestiwyd Yeldham ar ôl i’w gar gael ei stopio eto. Atafaelwyd ffonau symudol.
Dangosodd yr ymchwiliad dilynol o’r chwe ffôn bod Yeldham yn trefnu’r fenter yn Aberystwyth, a bod Cribbett yn cludo’r cyffuriau ac yn cynorthwyo Yeldham â’i weithgareddau drwy ddod â heroin a chrac cocên i mewn i Aberystwyth, ar ôl eu casglu o ardal Bryste.
Roedd swyddogion yn medru profi eu bod nhw wedi cludo cyffuriau rhwng 18 Rhagfyr 2020 a 5 Chwefror 2021.
Roedd tystiolaeth yn awgrymu bod Yeldham wedi trefnu caffael cyffuriau a reolir gan gyflenwr uwch o ardal Bryste, neu gymryd rhan yn y trefniadau hyn, 11 gwaith o leiaf.
Amcangyfrifir bod tua 95.5 gram o ddiamorffin, neu heroin, â gwerth o tua £12,000 ar y stryd, a 57 gram o grac cocên â gwerth o tua £7,000 ar y stryd, wedi’i gyflenwi yn ystod y cyfnod hwn.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Sam Garside: “Mae mynd i’r afael â’r bobl sy’n dod â chyffuriau i mewn i’n hardal ni i’w gwerthu’n flaenoriaeth ar gyfer yr heddlu, felly rydym yn fodlon â’r canlyniad hwn.
“Treuliodd y dynion hyn sawl mis yn dod â chyffuriau caethiwus iawn i mewn i Aberystwyth er mwyn elwa o ledaenu diflastod.
“Mae’r achos hwn yn dangos y byddwn yn mynd ar ôl unrhyw un sy’n gwneud yr un peth ac yn ei erlyn.
“Os ydych chi’n credu bod rhywun yn gwerthu cyffuriau yn eich ardal chi, rhowch wybod inni drwy anfon e-bost at [email protected], drwy wefan yr heddlu, neu drwy alw 101.”