Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddiw, dedfrydwyd tad a mab, sef Edward, 62 oed, a Daniel McCann, 37 oed, yn Llys y Goron Abertawe i 7 mlynedd a 7 mis ac 8 mlynedd a 6 mis yn ôl eu trefn am eu rhan mewn cynhyrchu canabis yn eu heiddo arunig ym Mlaenllain, Cwmbach, ger Hendy-gwyn ar Daf.
Dedfrydwyd gwraig Edward, Linda McCann, 60 oed, i 6 blynedd a 7 mis o garchar mewn gwrandawiad ochr yn ochr â’u gweision, Jack Whittock, a dderbyniodd ddedfryd o 2 flynedd a 10 mis, a Justin Liles, a dderbyniodd ddedfryd o 22 mis, ar 26 Awst.
Ar 23 Hydref 2020, gweithredwyd gwarant gan yr heddlu yn yr eiddo yr oedd y teulu McCann yn byw ynddo. Daethant o hyd i osodiad mawr soffistigedig mewn sgubor, a’u gwelodd yn cynhyrchu canabis llysieuol, resin canabis, ac olew canabis. Yn ystod y cyrch, arestiwyd Linda McCann, Liles, o ardal Glasfryn, Sanclêr, a Whittock, o Stryd Fawr Arberth, yn y sgubor. Daethpwyd o hyd i Edward McCann yn y tŷ ar yr un safle.
Arestiwyd Daniel McCann o Highcroft Lane, Horndean, Waterlooville, a oedd yn berchen ar yr eiddo ger Hendy-gwyn ar Daf ac a adnabuwyd drwy deledu cylch cyfyng ar y safle, yn Portsmouth ar 15 Chwefror 2021.
Yn ystod y warant, daeth swyddogion o hyd i chwe ystafell bwrpasol lawr stâr yn y sgubor a oedd yn cynnwys planhigion canabis mewn gwahanol gyfnodau o dyfu.
Lan stâr yn y sgubor, roedd sawl morwyn ddillad yn cael ei defnyddio i sychu canabis, a nifer o focsys a bagiau plastig llawn canabis llysieuol.
Roedd gan y planhigion yn y sgubor werth posibl o hyd at £460,000, tra bod swyddogion hefyd wedi adfer tua 80kg o gynnyrch canabis â gwerth hyd at £1.5 miliwn.

Wrth chwilio’r tŷ, daethpwyd o hyd i £10,000 mewn arian parod mewn ystafell wely, a bar o siocled â chanabis ynddo ar fwrdd y gegin.
Plediodd y pump yn ddieuog, ond newidion nhw eu pledion ar ôl i’r achos llys gychwyn.
Dywedodd y Prif Arolygydd Rhys Jones: “Mae targedu cynhyrchwyr a gwerthwyr yn flaenoriaeth ar gyfer ein heddlu yn ein hymdrechion i gael gwared ar bobl sy’n lledaenu diflastod drwy ein cymunedau.
“Dewisodd y teulu McCann yr eiddo hwn er mwyn dod i fan gwledig, arunig, lle y credent y gallent osgoi cael eu cosbi am eu gweithredoedd. Fe wnaethant gamgymeriad.
“Nawr bod y dedfrydau hyn wedi’u cyflwyno, byddwn yn ceisio cael gwared ar eu henillion anghyfreithlon drwy’r Ddeddf Elw Troseddau.”
Dywedodd y Ditectif Ringyll Owen Lock: “Diolch i ymdrechion ein swyddogion, yn ystod ymchwiliad sydd wedi bod yn sylweddol, mae’r bobl hyn yn awr dan glo.
“Mae’n dangos pa mor bwysig ydyw i bobl ddweud wrth yr heddlu pan maen nhw’n amau bod rhywbeth amheus yn digwydd, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig.”