Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn i chi, y cyhoedd, ein helpu i ddatgelu swyddogion, aelodau o staff a gwirfoddolwyr yr heddlu sydd wedi dangos ymrwymiad a gofal arbennig o fewn y maes plismona.
Ydych chi’n gwybod am rywun o Heddlu Dyfed-Powys sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl a’n cymunedau lleol? Mae’r wobr #Gofalu yn gyfle i chi enwebu aelod o’n tîm a dweud ‘diolch’ am eu hymdrechion.
Esbonia Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys, Dr Richard Lewis: “Gallai’ch enwebai fod yn dditectif sydd wedi rhoi cefnogaeth neilltuol i ddioddefydd cam-drin, yn SCCH sydd wedi bod yn achubiaeth i’r gymuned, neu’n wirfoddolwr sydd wedi ysbrydoli cenhedlaeth o gadetiaid heddlu ifainc.
“Cysylltwch â ni os oes aelod o’n tîm wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.
“Mae eich pleidlais yn rhoi’r cyfle inni gydnabod y gwaith gwych a’r llwyddiant nad yw’n cael ei gydnabod yn aml.”
Er mwyn enwebu, yn syml, dywedwch wrthym pam yr ydych wedi enwebu’r unigolyn a pham yr ydych yn credu ei fod yn aelod neilltuol o’r gwasanaeth heddlu. Medrwch enwebu drwy lythyr neu drwy lenwi’r ffurflen enwebu ar-lein syml hon.
Os hoffech enwebu drwy lythyr, anfonwch eich enwebiad at: Gwobr #Gofalu, d/o Cydnabyddiaeth a Digwyddiadau, Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu, Pencadlys yr Heddlu, Blwch Post 99, Llangynnwr, Caerfyrddin, SA31 2PF.
Dylech gynnwys enw’r unigolyn yr ydych yn ei enwebu a’ch rhesymau am hyn, yn ogystal â’ch enw a rhif cyswllt.
Y dyddiad cau yw dydd Llun 23 Ionawr 2023 am hanner nos.
Cyhoeddir enillydd y wobr #Gofalu ddydd Iau 16 Mawrth 2023 yn fyw o’r Gwobrau Blynyddol, a bydd modd gwylio ar lwyfannau Twitter a Facebook Heddlu Dyfed-Powys.