Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gwasanaeth heddlu wedi datgelu bod dynes a alwodd 999 er mwyn archebu pryd parod wedi parhau i ofyn am bitsa pan ddywedwyd wrthi ei bod hi wedi galw’r heddlu.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi rhyddhau manylion am alwad lle’r oedd dynes wedi galw 999 yn ystod oriau mân y bore i ofyn am bitsa.
Cyfaddefodd triniwr digwyddiadau’r heddlu, Emma Bennett, bod y cais wedi ei thaflu oddi ar ei hechel, ond bod ei greddf wedi dweud wrthi am beidio â diystyru’r galwr fel gwastraffwr amser.
Ac roedd hi’n iawn.
Fel y digwyddodd yn y pen draw, dioddefydd ymosodiad domestig oedd y galwr, ac roedd hi’n ofni am ei diogelwch. Teimlai mai ei hunig ddewis oedd galw 999 ac esgus archebu pryd parod.
Dywedodd Emma: “Pan ofynnodd hi am bitsa, credais y gallai rhywun fod yn gwneud drygau, a dyna pam y dywedais wrthi ei bod hi ar y ffôn i’r heddlu.
“Ond doedd dim chwerthin, dim synau yn y cefndir, ac roedd ganddi ryw bendantrwydd digyffro sy’n anarferol ar gyfer galwr ffug nodweddiadol.
“Yr eiliad y parhaodd i ofyn am bitsa, roeddwn i’n gwybod bod angen cymorth arni, a dilynais ei harweiniad hi.
“Fel mae’n digwydd, roedd hi’n ddynes ddoeth iawn a feddyliodd ar ei thraed.”
Parhaodd Emma â’r alwad, gan ofyn am fanylion megis enw a chyfeiriad y ddynes, a chafodd wybodaeth gryno ond hollbwysig ganddi.
Gan roi ei henw, ychwanegodd y ddynes yn gyflym, “Rwyf angen (pitsa) ar unwaith,” gan gyfleu brys ei sefyllfa.
Esboniodd Emma: “Yr oeddwn yn sicr ei bod hi wir angen cymorth pan orffennais yr alwad. Fe’i sicrheais fod pitsa ar y ffordd. Diolchodd imi a chychwyn llefain.
“Yr oeddwn yn poeni amdani, ond yn ddiolchgar fy mod i wedi ymateb fel y gwnes yn y gobaith fy mod i wedi ei chadw’n ddiogel tra'n bod ni'n anfon cymorth ati.
“Mae galwadau fel hyn yn brin iawn, ac mae’n rhaid imi ddweud, cefais fy nhaflu oddi ar fy echel ar ddiwedd sifft hir, ond rwy’n falch fy mod i wedi llwyddo i roi i’r dioddefydd y cymorth yr oedd ei angen arni ar frys.”
Anfonwyd swyddogion i gyfeiriad y ddynes yn syth, a gwelsant ei bod hi wedi dioddef ymosodiad domestig.
Arestiwyd dyn ychydig bellter i ffwrdd.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi rhyddhau’r wybodaeth hon fel rhan o ymgyrch sy’n ymwneud â cham-drin domestig, gan godi ymwybyddiaeth o’r ffyrdd y gall dioddefwyr adrodd am ddigwyddiadau wrth yr heddlu, a ble y gallant droi am gymorth.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Jayne Butler: “Mae’r digwyddiad hwn yn dangos yn glir pam na ddylid diystyru unrhyw alwad i’r gwasanaethau brys yn syth fel galwad ffug neu niwsans.
“Gall fod bwriadau dilys tu ôl i unrhyw alwad sy’n ymddangos yn anarferol, ac yn yr achos hwn, rwy’n ddiolchgar iawn bod greddf Emma wedi ei harwain i barhau â’r naratif o gwmpas archebu pitsa.
“Yr un alwad hon yw’r rheswm pam na fyddem byth yn rhyddhau rhestr o alwadau ‘niwsans’ neu ffug ar gyfer adloniant neu er mwyn codi cywilydd ar unrhyw un, oherwydd dydych chi byth yn gwybod beth sy’n digwydd i’r galwr.”
Os fyddwch chi’n galw 999, y peth gorau i’w wneud bob amser yw siarad â’r triniwr galwadau, hyd yn oed os fyddwch chi’n sibrwd. Fodd bynnag, os fyddwch chi mewn sefyllfa lle mae angen cymorth arnoch, ond byddai gwneud sŵn yn eich rhoi chi mewn perygl, medrwch ddefnyddio’r datrysiad tawel. Galwch 999 a gwasgwch 55 pan gewch eich annog i wneud hynny, a bydd y triniwr galwadau’n eich trosglwyddo i’r heddlu. Mae’r dewis hwn ond yn gweithio ar ffonau symudol, ac nid yw’n caniatáu i’r heddlu olrhain eich lleoliad.