Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ddydd Mawrth 10 Mawrth 2020, gweithredodd swyddogion Tîm Plismona Achosion Difrifol Sir Gaerfyrddin Heddlu Dyfed-Powys warant gyffuriau mewn cyfeiriad yn Neuadd y Parc, Caerfyrddin.
Yno, ar ôl chwilio’r eiddo, fe wnaethon nhw arestio'r deiliad, Joshua Davies, ynghyd ag Alex Henry Davies, hefyd o Neuadd y Parc, a Joshua Evans, o Heol y Meinciau, Pont-iets.
Fe wnaeth swyddogion hefyd atafaelu cyffuriau gwerth £3,345 ar y stryd, a oedd yn cynnwys 144 gram o ganabis, 14.53 gram o gocên purdeb uchel a nifer fach o dabledi ecstasi. Yn ogystal, adenillwyd pedwar ffôn symudol, tua £400 mewn arian parod, gwn BB a chyllell hela steil Rambo.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Rhys Jones ei fod yn falch bod ei swyddogion wedi sicrhau erlyniad chyfnod o garchar ar gyfer pob un o'r dynion.
"Atebodd y tri “dim sylw” yn ystod y cyfweliad a phledio’n euog mewn gwrandawiad cychwynnol, ond cynhyrchodd gwaith rhagorol y Tîm Plismona Achosion Difrifol becyn tystiolaeth na roddodd ddewis iddynt heblaw pledio'n euog yn y llys," ychwanegodd.
"Gohiriwyd yr ymchwiliad oherwydd gwaith ffôn a fforensig helaeth, yn ogystal â'r pandemig, felly rydym yn falch o gael y canlyniad.
"Bu’r tri dyn hyn yn gysylltiedig â dosbarthu cyffuriau, sy'n lledaenu diflastod drwy ein cymunedau. Ni fydd hyn yn cael ei oddef.
"Ein neges i unrhyw un arall sy'n ystyried gwerthu cyffuriau yw y byddwn yn dod ar eich ôl a byddwch yn cael eich cosbi."
Pan ymddangosodd yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun 31 Ionawr, dedfrydwyd Alex Davies i 36 mis o garchar, dedfrydwyd Joshua Davies i 21 mis o garchar, a dedfrydwyd Evans i 15 mis o garchar.