Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gyrrwr ar gyffuriau a achosodd wrthdrawiad difrifol, gan adael unigolyn yn yr ysbyty am fis, wedi’i ddedfrydu i 16 mis o garchar.
Dedfrydwyd Phillip Barber, 39 oed, of ardal Lluest, Ystradgynlais, yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth 8 Chwefror am achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus a gyrru ar gyffuriau.
Am 10.10y.b. ddydd Mercher 12 Mai 2021, derbyniodd Heddlu Dyfed-Powys alwad gan y gwasanaeth ambiwlans yn dweud bod gwrthdrawiad wedi digwydd rhwng dau gar ar yr A4067, wrth adael cylchfan yr Aubrey Arms i gyfeiriad Aber-craf.
Roedd Barber, a oedd yn gyrru car Porsche Boxter, wedi croesi i’r ochr anghywir o’r ffordd, gan wrthdaro benben â char Toyota Aygo. Torrodd y gyrrwr ei asen a’i sternwm a dioddefodd chwiplach, a thorrodd ei deithiwr wyth asen, pont yr ysgwydd, ei sternwm a’i bigwrn, ac roedd yn rhaid iddo aros yn yr ysbyty am gyfnod hir.
Torrodd teithiwr Barber 4 asen, dioddefodd chwiplach, niweidiodd feinwe feddal y glun dde, ac roedd clwyfau bychain a marciau llosg ar ochr chwith ei wddf. Roedd canlyniad prawf cyffuriau Barber yn gadarnhaol.
Cafodd ei arestio, ac yn ddiweddarach, dangosodd profion gwaed ddarlleniad o 646 microgram fesul litr o waed (50ug) ar gyfer Benzoylecgonine, neu cocên, sy’n 12.9 gwaith yn fwy na’r terfyn cyfreithlon, sef 50.
Dywedodd y Rhingyll Matthew Thomas o’r Uned Plismona’r Ffyrdd bod gan y gwrthdrawiad ganlyniadau difrifol ar gyfer ei ddioddefydd.
“Roedd hwn yn wrthdrawiad difrifol a adawodd ei ddioddefydd yn yr ysbyty am fis ag anafiadau cas,” meddai.
“Mae dedfryd Barber yn adlewyrchu hyn, ac rwy’n gobeithio ei fod yn dod â’r mater i ben ar gyfer y dioddefydd a theulu’r dioddefydd.
“Nid yw gyrru dan ddylanwad yn dderbyniol, ac mae’n anghyfreithlon am reswm. Yn rhy aml o lawer, yr ydym ni fel swyddogion heddlu’n gorfod ymdrin â chanlyniadau pobl sy’n gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau, ac rydym yn gweld gormod o bobl yn dioddef anafiadau difrifol neu waeth oherwydd gweithredoedd dideimlad ac annerbyniol eraill.”
Gwaharddwyd Barber rhag gyrru am ddwy flynedd a phedwar mis hefyd.