Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Achubwyd gyrrwr tractor ar ôl iddo dreulio dros 10 awr wedi’i ddal mewn llifddwr ym Mhowys.
Cafodd David Jones, 64 oed, o Acton Burnell ger yr Amwythig, ei ddal yn y dŵr ar ei ffordd i chwarel ger Llandrinio i gasglu cerrig tua 7.30 o’r gloch fore ddydd Mawrth 22 Chwefror.
Roedd yr Afon Hafren wedi gorlifo’i glannau yn yr ardal yn dilyn Storm Eunice a Storm Franklin.
 Mr Jones wedi’i ddal ar lôn ddiarffordd, yn gobeithio ac yn disgwyl cael ei achub, ni hysbyswyd yr awdurdodau tan 3.40 o’r gloch y prynhawn hwnnw, pan ddechreuodd ei gydweithwyr boeni ei fod heb ddychwelyd i’r iard.
Adroddodd ei gydweithwyr ei fod ar goll, a gweithredodd y gwasanaethau brys yn syth. Cydweithiodd yr heddlu, y gwasanaeth tân a Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu, a daethant o hyd iddo wedi’i ddal yn ei dractor.
“Yr oeddwn yn mynd i’r chwarel i hôl cerrig,” meddai.
“Yr oeddwn yn mynd trwy’r dŵr, a dechreuodd fynd yn ddyfnach ac yn ddyfnach, felly roedd yn rhaid imi stopio neu fe allai’r dŵr fod wedi difrodi’r injan.”
Dywedodd Mr Jones nad oedd modd iddo alw am gymorth oherwydd bod batri ei ffôn symudol yn fflat, felly roedd yn rhaid iddo aros yn ei unfan heb syniad pryd y byddai’n derbyn cymorth.
“Roedd yn rhaid imi aros i rywun ddod i chwilio amdanaf,” meddai.
“Ni wnes i droi’r radio ymlaen gan fy mod i’n poeni am y gwaith trydanol.
“Roedd fy nghinio i gyda mi, felly roeddwn i’n iawn am fwyd.
“Gwnaeth pawb ymdrech arbennig i ddod o hyd imi. Roedd gweld yr hofrennydd yn rhyddhad mawr.”
Achubwyd Mr Jones diolch i waith partneriaeth ardderchog rhwng y gwasanaethau brys.
Roedd yr heddlu wedi gweld llun o lifogydd ar gyfryngau cymdeithasol, ac roedd yn ymddangos fel pe bai tractor yn y pellter â llifddwr o’i amgylch.
Yna, defnyddiodd swyddogion what3words – gwefan sy’n nodi lleoliadau – i arwain hofrennydd Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu at Mr Jones.
Dywedodd yr Arolygydd Darren Brown: “Daethpwyd o hyd i’r tractor a’r trelar drwy luniau a thrwy leoliad whats3words.
“Ni fu unrhyw gysylltiad drwy’r dydd, felly nid oeddem yn gwybod pa un ai a ydoedd yn ddiogel ai peidio.
“Galwom Wasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu i mewn er mwyn mynd mor agos â phosibl i’r tractor i edrych tu mewn iddo. Gwelsant siaced adlewyrchol a symudiad, gan gadarnhau bod rhywun yn y tractor.”
Galwyd y gwasanaeth tân i mewn â chwch chwythadwy anhyblyg i gludo Mr Jones i ddiogelwch.
Dywedodd Andrew Richards, Rheolwr Gorsaf Dân y Trallwng, “Gweithiodd ein criwiau’n ddiflino dros y penwythnos a dechrau’r wythnos hon wrth ymateb i’r llifogydd rhanbarthol a achoswyd gan Storm Eunice a Storm Franklin.
“Roedd ein criwiau eisoes yn ymateb i ddigwyddiad arall a oedd yn gysylltiedig â’r llifogydd, ac wedi achub pedwar unigolyn o’u cartrefi yn ardal Llandrinio pan gawsant eu galw i helpu’r heddlu i achub dyn mewn tractor.
“Diolch i gymorth hofrennydd yr heddlu, a ddaeth o hyd i’r tractor yn y llifddwr, roedd modd i’n Tîm Achub Dŵr Cyflym fynd at y cerbyd a mynd i mewn iddo i achub y dyn gan ddefnyddio cwch.”