Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
INTACT yw ein rhaglen bartneriaeth amlasiantaeth ar gyfer mynd i’r afael â Throseddau Difrifol a Throseddu Trefnedig yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys – ac mae’n anelu i gadw ein cymunedau’n ddiogel gyda’n gilydd.
Un o flaenoriaethau’r rhaglen yw ymyrraeth gynnar ac atal, ac mae’r gwaith hwn yn cael ei gyflawni gan ein tîm ymroddedig o SCCH INTACT a benodwyd ym mis Ebrill 2021.
‘Tîm Plismona Bro arbenigol’ yw’r tîm, sydd wedi cefnogi dros 235 o gyfeiriadau drwy brosiect o’r enw Gwaith Oedolion Dibynadwy 121 (sy’n cefnogi plant, pobl ifainc ac oedolion sy’n agored i niwed i gael y cymorth cywir ar yr amser cywir) neu ymyriadau grŵp ers i’r cynllun peilot ddechrau ym mis Mai 2021. Maen nhw hefyd wedi cyfrannu at ddatrys problemau o gwmpas rheoli Grwpiau Troseddu Trefnedig ac wedi addysgu dros 5,000 o bobl am yr arwyddion a’r drwg sy’n gysylltiedig â gwahanol fathau o Droseddau Difrifol a Throseddu Trefnedig.
Cafodd dyn ifanc o Sir Benfro waith, a’r ymyriadau a’r cymorth yr oedd eu hangen, drwy SCCH INTACT, cyn ei fod o bosibl yn defnyddio a chyflenwi Cyffuriau Dosbarth A.
Ar ôl bod yn destun gwarant Camddefnyddio Cyffuriau Adran 23, lle y daethpwyd o hyd i ychydig bach o ganabis yn ei feddiant, rhoddwyd Datrysiad Cymunedol Oedolyn iddo, â’r amod i ymgysylltu’n llawn â thîm Ymyrraeth Gynnar ac Atal INTACT.
Ymgysylltodd yn llawn â nhw, a chyfeiriodd y tîm ef at Futureworks, sy’n arbenigo mewn gwasanaethau sgiliau a chyflogaeth, a’i gefnogi i gael mynediad at apwyntiadau yn y Ganolfan Waith. O ganlyniad, sicrhaodd waith. Cafodd ei gefnogi hefyd i ddod o hyd i’r cymorth cymdeithasol a meddygol yr oedd ei angen, ac mae ei les a’i ymddygiad wedi gwella’n fawr.
Mae ‘Rownd 2’ yn enghraifft wych arall o ymyrraeth gynnar yn Sir Benfro, sy’n rhoi cyfleoedd i bobl ifainc drwy baffio.
Ymyrraeth baffio ydyw ar gyfer pobl ifainc y nodwyd eu bod yn agored i gamfanteisio neu niwed gan y tîm INTACT. Cynhelir y sesiynau 90 munud o hyd bob dydd Mawrth, ac yn ystod yr amser hwn, bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn sesiwn hyfforddiant paffio.
Byddant hefyd yn dysgu sgiliau defnyddiol i’w helpu mewn bywyd bob dydd, megis disgyblaeth, rheoli emosiynau a strategaethau tawelu sy’n dod law yn llaw â phaffio.
Lluniwyd yr ymyrraeth i fod yn weithgaredd dargyfeiriol deniadol arloesol ar gyfer pobl ifainc a allai fod mewn perygl o gymysgu â’r bobl anghywir neu ddilyn llwybrau anghywir. Yn ogystal â hyfforddiant bocsio, cyflwynir sesiynau ar beryglon Llinellau Cyffuriau – term a ddefnyddir i gyfeirio at rannu cyffuriau ar draws y sir, lle mae nifer o bobl ifainc a phobl sy’n agored i niwed yn cael eu denu i weithio ar gyfer delwyr sy’n uwch i fyny’r gadwyn droseddol.
Mae’r tîm wedi llwyddo i sicrhau rhagor o arian ar gyfer y fenter hon, sy’n golygu y bydd llawer mwy o bobl yn elwa o’r ymyrraeth hwn yn y dyfodol. Cynhelir sesiynau bob wythnos yng Nghlwb Paffio Penfro a Doc Penfro.