Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’n cynnig heriau sy’n eu galluogi i wneud cyfraniad gwirioneddol gwerthfawr, a gwella bywydau’r rhai maen nhw’n eu gwasanaethu.
Yr wythnos hon (17-23 Ionawr), mae’n wythnos gweithredu ar Blismona Bro, sy’n cydnabod ac yn dathlu cyflawniadau plismona cymunedol.
Mae SCCH Helen Fender yn ymgorffori plismona bro, a chydnabu ei gwaith ar gyfer mynd i’r afael â mater cymhleth sydd wedi amharu ar y gymuned mae’n ei gwasanaeth ers sawl blwyddyn yng Ngwobrau Blynyddol Heddlu Dyfed-Powys yn ddiweddar.
Mae SCCH Fender wedi gweithio i roi terfyn ar gasglwyr cocos diegwyddor yn dod i gymunedau Llanismel, Cydweli, Llansteffan a Lacharn, gan ymddwyn yn gwrthgymdeithasol ac effeithio’n andwyol ar y cymunedau hynny.
Er mwyn creu newid, edrychodd SCCH Fender ar y broblem a’i hachos – gan nodi hen is-ddeddf a oedd yn caniatáu i unrhyw un gael trwydded am ddim i gasglu cocos yng ngwelyau cocos Pysgodfa’r Tair Afon.
Yn 2017, roedd dros 1,000 o ddalwyr trwydded, a’r unig reoliad ar gyfer cael trwydded yw rhoi enw, cyfeiriad, manylion cyswllt a ffotograff yn brawf adnabod.
“Sylwais fod yn rhaid gwneud rhywbeth. Ni allai barhau fel hyn oherwydd roedd yn achosi problemau diddiwedd i’r gymuned a’r pysgotwyr dilys a oedd yn dibynnu ar gasglu cocos i wneud bywoliaeth,” meddai.
“Doedd dim problem yng nghilfach Porth Tywyn gan ei bod hi’n anoddach o lawer cael trwydded.”
Aeth SCCH Fender ati i weithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn ceisio rheoleiddio Pysgodfa’r Tair Afon, yn yr un modd â gwelyau cocos eraill.
Mae ymgynghoriad 3 mis yn cael ei lansio, a’r nod yw cyflwyno deddfwriaeth lymach ar gyfer cyhoeddi trwyddedau. Bydd gofynion yn cynnwys hyfforddiant, safonau offer lleiaf, eu statws cyflogaeth ar gyfer CThEM a ffi flynyddol o £800.
“Yr wyf wedi gweithio gyda’r cymunedau a’r pysgotwyr lleol ar hyn, ac maen nhw’n gefnogol,” meddai SCCH Fender.
“Pan mae gennych 1,000 o drwyddedau’n cael eu rhoi i bobl o bob cwr o’r wlad, mae’n mynd i achosi problemau ar gyfer y gymuned, ac mae’n effeithio ar y casglwyr lleol sy’n dibynnu ar y diwydiant hwn i ennill bywoliaeth.
“Yr oedd yn cael effaith niweidiol iawn ar fywydau pobl yr ardal ac roedd yn profi’n beryglus, â nifer o feiciau cwad ar y traethau ac yn y pentrefi, a oedd yn croesi llinellau rheilffyrdd hyd yn oed.”
Mae’r mater wedi achosi problemau dros y blynyddoedd, gydag Is-adran y Môr a Physgodfeydd Llywodraeth Cymru’n cau gwelyau cocos Pysgodfa’r Tair Afon o 2012 tan 2017 oherwydd adroddiadau difrifol am ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnwys pobl yn cysgu allan yn yr awyr agored, sbwriel ddim yn cael ei waredu’n briodol, diffyg cyfleusterau toiled, a lorïau cymalog mawr yn ceisio cael mynediad i ffyrdd pentref bach.
Dywedodd y Rhingyll Gemma Davies: “Mae Helen wedi cynnal ymchwiliad trylwyr a manwl i’r problemau sylfaenol yn y lleoliad, ceisio barn arbenigwyr, a thrafod nifer o opsiynau er mwyn ceisio gweithredu newid er gwell ar gyfer y gymuned casglu cocos a’r bobl sy’n byw gerllaw’r gwelyau cocos.
“Yr ydym yn obeithiol y sicrheir system drwyddedu reoledig y gellir ei monitro a’i ‘phlismona’ gan y pysgodfeydd yn fwy effeithiol.”
Ymunwch â ni wrth inni ddathlu’n Timoedd Plismona Bro a diolch iddynt yn ystod #WythnosPlismonaBro.