Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a dynes wedi’u carcharu am ymosod ar ddyn agored i niwed a dwyn oddi wrtho mewn gorsaf reilffordd.
Aeth Rory Barnes, 23 oed, o Ash Grove, Neyland, Aberdaugleddau, a Hayley Talman, 30 oed, o St Davids Close, Hubberston, Aberdaugleddau, i fyny at eu dioddefydd yng ngorsaf drenau Hwlffordd tua 9 o’r gloch nos Sul 16 Ionawr.
Gofynnodd Talman yn gyntaf i’r dyn, sy’n anabl, pa un ai a ydoedd yn gwybod am rywun a oedd yn gwerthu cyffuriau, cyn i Barnes fynd i fyny’n agos iawn ato, gan ymyrryd â’i ofod personol.
Symudodd y dioddefydd i ffwrdd, ond cafodd ei ddilyn gan Barnes nifer o weithiau, cyn iddo afael yn y dioddefydd a dweud wrtho bod yn rhaid ei fod yn cymryd ‘fflêc’ oherwydd y siaced yr oedd yn ei gwisgo.
Unwaith eto, cerddodd y dioddefydd i ffwrdd, y tro hwn i flaen yr orsaf drenau. Fodd bynnag, arhosodd Barnes gydag ef, gan ofyn iddo am fanylion personol, megis ei enw a’i gyfeiriad.
Unwaith eto, symudodd y dioddefydd i ffwrdd ac aeth yn ôl i’r platfform. Eto, dilynodd Barnes ef ac eisteddodd i lawr wrth ei ymyl a gofyn am sigarét.
Cododd y dioddefydd a cherddodd i ffwrdd i flaen yr orsaf drenau. Dilynodd Talman a Barnes ef.
Yna, ymosododd Barnes ar y dyn, gan ei daflu i’r llawr. Dringodd ar ei ben a phwno ei ben ddwywaith, cyn gosod ei ddwylo ym mhoced ei got a thynnu pecyn o dybaco allan.
Llwyddodd y dioddefydd i redeg i ffwrdd tuag at ganol y dref, fodd bynnag, rhedodd Barnes ar ei ôl.
Unwaith eto, taflodd y dyn i’r llawr, gan weiddi a rhegi ato i roi popeth a oedd ganddo iddo.
Pwnodd Barnes ei ben eto 4 neu 5 gwaith. Pan oedd ar y llawr, aeth Barnes a Talman drwy ei bocedi, a thynnodd Barnes gerdyn debyd allan.
Yna, dywedodd Barnes fod ganddo gyllell. Roedd yn chwilio ei bocedi ei hun fel pe bai’n chwilio am rywbeth, ac roedd Talman yn dweud bod angen i’r dioddefydd wrando gan fod cyllell gyda Barnes.
Holodd Barnes Talman am y gyllell cyn dweud wrth y dioddefydd y byddai’n dod o hyd iddo ac yn ei drywanu pe bai’n adrodd am y mater wrth yr heddlu.
Ar hyn, llwyddodd y dioddefydd i redeg i ffwrdd o’r ardal.
Ymatebodd swyddogion Heddlu Dyfed-Powys yn syth, gan arestio Barnes a Talman, cyn lansio ymchwiliad trylwyr.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Ringyll Tanya Grey: “Roedd hwn yn brofiad erchyll ar gyfer dioddefydd agored i niwed. Cafodd ei fygwth a’i ddychrynu gan Barnes a Talman cyn iddynt ymosod yn ffyrnig arno.
“Pan lwyddodd y dioddefydd o’r diwedd i ddianc rhagddynt, rhedodd, gan ofni am ei fywyd am eu bod nhw wedi ei fygwth â chyllell.
“Hoffwn ei ganmol am ei ddewrder drwy gydol yr ymchwiliad.
“Yr ydym yn fodlon ar y dedfrydau a roddwyd i Barnes a Talman, ac yn gobeithio bod hyn yn cynnig rhywfaint o gysur i’r dioddefydd.
“Hoffwn ganmol ein swyddogion hefyd, o’r swyddogion ymateb cychwynnol i’r tîm ymchwilio. Helpodd eu proffesiynoldeb i sicrhau bod Barnes a Talman yn cael eu tynnu oddi ar ein strydoedd.”
Dedfrydwyd Barnes i bedair blynedd a naw mis o garchar, yn ogystal â 18 mis pellach, i redeg ar y cyd am ddigwyddiad yng Nghaerdydd. Dedfrydwyd Talman i dair blynedd a dau fis.
Ymddangosodd y ddau yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener 11 Mawrth 2022, wedi iddynt bledio’n euog mewn gwrandawiad blaenorol.