Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd Jerry Harty ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener, pan gafodd hefyd orchymyn i fynychu cynllun dargyfeiriol er mwyn gwneud gweithgaredd adsefydlu am 20 diwrnod mewn ymgais i’w gael i newid ei ffyrdd.
Roedd gyrru Harty mor beryglus - gyda chyflymder gormodol, gyrru ar ochr anghywir y ffordd, a theithio'r ffordd anghywir o amgylch cylchfan - fel bod yn rhaid i'r heddlu roi'r gorau i'w ymlid.
Fodd bynnag, gwrthododd swyddogion Heddlu Dyfed-Powys adael iddo ddianc.
Fe wnaethant barhau i batrolio’r ardal a siarad ag aelod o’r cyhoedd a oedd wedi gweld car yn cyfateb i ddisgrifiad car Harty yn troi i lawr tuag at Freystrop.
Dilynodd swyddogion y llwybr hwnnw a dod o hyd i Harty, sydd bellach yn 18 oed, o Faes Carafanau Pantyblawd, Parc Menter Abertawe, ger ei Peugeot 308 du, lle'r oedd wedi ceisio cael gwaraed ar y car a'i allweddi.
Meddai PS Paul Owen-Williams : “Mae Harry’n ifanc, yn ddibrofiad ac roedd eisoes wedi’i wahardd rhag gyrru.
“Roedd ei yrru ar y diwrnod hwnnw yn beryglus a gallai mor hawdd fod wedi arwain at wrthdrawiad difrifol.
“Roedd yn meddwl y gallai ddianc, a gwadodd unrhyw ran yn y digwyddiad, gan geisio beio rhywun arall am ei weithredoedd, gan bledio’n ddieuog mewn gwrandawiadau cynharach.
“Ond rwy’n falch bod ein swyddogion, trwy ymdrechion dyfal a gwaith heddlu da, wedi gallu cael y dystiolaeth angenrheidiol i wneud iddo newid ei ble i euog.”
Dechreuodd y digwyddiad, ar Hydref 9, 2021, pan geisiodd swyddogion dynnu car Harty drosodd ychydig cyn cylchfan Sgwâr Salutation yn Hwlffordd.
Wnaeth Harty, a oedd wedi’i wahardd rhag gyrru o’r blaen yn 2018 ac nad oedd erioed wedi dal trwydded yrru lawn ddim stopio. Daliodd i yrru, mewn modd oedd yn cydymffurfio â rheolau'r ffordd fawr i ddechrau, at y gylchfan gan droi i Freemans Way.
Gyda’r heddlu’n dal ar ei ôl, gyda’u goleuadau a’u seirenau ymlaen, symudodd Harty i ochr arall y ffordd a dechrau goddiweddyd cerbydau ar gyflymder, gan orfodi ei ffordd drwy’r traffig tuag at Gylchfan Pont Fadlen.
Yna fe gymrodd yr ail allanfa i'r A4076 tuag at Johnston pan oedd y goleuadau ar goch gan fynd y ffordd anghywir o amgylch y bolard 'cadwch i'r chwith' wrth y prif oleuadau traffig, wrth ymyl y tro i Old Hakin Road, gan orfodi aelod o'r cyhoedd i frecio’n sydyn.
Yna aeth yn ôl i ochr gywir y ffordd a pharhau i yrru ar gyflymder ar yr A4076 i gyfeiriad Johnston. Cafodd ei weld yn gwneud 60mya mewn parth 30mya.
Daliodd Harty i oddiweddyd cerbydau a gorfodi ei ffordd trwy draffig ac yna cafodd ei weld yn gwneud 90mya wrth i'w gar gyrraedd y parth 50mya i gyfeiriad Johnston.
Wrth iddo ddod at y gylchfan yn Johnston, aeth Harty’r ffordd anghywir o’i chwmpas, unwaith eto, gan orfodi pobl i stopio a symud i osgoi cael eu taro.
Yn sgil y risg i aelodau’r cyhoedd gan y gyrrwr, rhoddodd y swyddogion y gorau i’r ymlid.
Unwaith y daeth swyddogion o hyd iddo, cafodd ei arestio a'i gyhuddo'n ddiweddarach o beidio â stopio, gyrru tra’r oedd wedi ei wahardd, gyrru heb yswiriant, gyrru'n beryglus a gyrru heb fod yn unol â thrwydded.
Ar ôl pledio’n euog i’r troseddau hyn mewn gwrandawiad blaenorol fe’i dedfrydwyd ddydd Gwener gan dderbyn dedfryd o 27 wythnos o garchar, wedi’i gohirio am flwyddyn, gorchmynnwyd iddo wneud 150 awr o waith di-dâl, gwneud gweithgaredd adsefydlu am 20 diwrnod a chafodd ei wahardd rhag gyrru am dair blynedd.
Ychwanegodd PS Owen-Williams: “Rydym yn falch o’r ddedfryd a’n gobaith yw y bydd yn rhybudd i unrhyw un sy’n ystyried gyrru mewn ffordd mor ffôl a di-hid.
“Diolch i’r drefn nad oedd neb wedi eu hanafu’n ddifrifol y diwrnod hwnnw.”