Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae aelodau giang cyffuriau o Fwa’r Tre Llai wedi’u heuogfarnu o ddod â gwerth cannoedd o filoedd o bunnoedd o heroin a chocên i mewn i Bowys.
Canfu Daniel Seyffert, 39 oed, o Stryd Fawr Llanandras a Lee Husbands, 22 oed, o Bowling Green Lane, Trefyclo, yn euog o gynllwynio i werthu cyffuriau dosbarth A a B yn dilyn prawf yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener.
Nid oedd y rheithgor yn medru dychwelyd dyfarniad ar drydydd diffynnydd, sef Lucy Lloyd, 34 oed, o Heyope, Trefyclo.
Canfu Martin John Gallagher, 35 oed, a Michael Power, 20 oed, o Fwa’r Tre Llai, y Trallwng, yn euog ar ddechrau’r prawf.
Plediodd wyth arall - Patrick David Stokes, 33 oed, o Fwa’r Tre Llai, Tre’r Llai, y Trallwng; John Paul Power, 26 oed, o Fwa’r Tre Llai, y Trallwng; Sheldon Terrence Kay, 24 oed, o Heol yr Orsaf, Trefyclo; Kane Glyn Bastable, 24 oed, o Clarence Road, Wolverhampton; Kuldeep Sahota, 35 oed, o Broad Lanes, Wolverhampton; Gavin Andrew Tony Warley, 29 oed, o Fourth Avenue, Wolverhampton; Joshua Large, 23 oed, o Brook Close, Coven; a Kristian Rigby, 28 oed, o Rodfa Maesyfed, Trefyclo – yn euog mewn gwrandawiad cynharach.
Roedd yr ymgyrch llinellau cyffuriau’n cynnwys mynd â symiau mawr o gocên a heroin o ardal Wolverhampton i’r safle ym Mwa’r Tre Llai i rannu’r cyffuriau yn y Trallwng, y Drenewydd, Trefyclo a threfi eraill ym Mhowys dros sawl mis.
Wrth weithredu gwarant yn y safle teithwyr ym Mwa’r Tre Llai ddydd Llun 21 Mehefin 2021, datgelodd ymgyrch fawr gan Heddlu Dyfed-Powys, a oedd yn cynnwys 80 swyddog, swm sylweddol o gyffuriau.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Richard Lewis fod llawer o waith caled wedi mynd i mewn i’r ymchwiliad, gyda’i swyddogion yn llwyddo i brofi symudiadau’r grŵp troseddu trefnedig, a brofodd yn hollbwysig ar gyfer sicrhau erlyniad pellgyrhaeddol.
“Yr ydym yn croesawu euogfarnu a dedfrydu pobl sydd wedi bod yn gysylltiedig â dod â chyffuriau i mewn i’n cymunedau,” meddai.
“Mae llawer o waith wedi mynd i mewn i brofi ehangder yr ymgyrch hon, felly hoffwn ddiolch i bawb a oedd yn gysylltiedig â sicrhau’r euogfarnau hyn.
“Bydd cael gwared ar y grŵp troseddu trefnedig hwn yn cael effaith ehangach ar y gymuned na dileu’r bygythiad cyffuriau yn unig. Bydd y bygythiadau, ofn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig â’r math hwn o weithgarwch yn bellgyrhaeddol.
“Mae’r dedfrydau’n dangos nad yw’n werth gwerthu cyffuriau. Nid yn unig y byddwn yn ceisio’ch dwyn i gyfiawnder am y troseddau hyn, byddwn yn ceisio adennill unrhyw arian neu asedau yr ydych wedi elwa ohonynt o ganlyniad i’ch gweithgarwch troseddol.”
Dywedodd y Prif Arolygydd Jacqui Lovatt: “Effeithiodd y gweithgarwch cyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig yr unigolion hyn yn sylweddol ar gymuned Powys, gan gynnwys ansawdd bywyd preswylwyr a busnesau lleol.
“Nid yn unig y bydd y canlyniad hwn yn cael effaith cadarnhaol ar y gymuned o ran dileu’r bygythiad a gyflwynir gan yr unigolion hyn, ond bydd hefyd yn anfon neges gref at unrhyw un sy’n gysylltiedig â chyflenwi cyffuriau ledled Powys na fydd yn cael ei oddef.
“Hoffwn sicrhau’r cyhoedd y byddwn yn parhau i weithredu ar bob pryder ynglŷn â defnyddio a chamddefnyddio cyffuriau.”
Bydd dedfrydu’n digwydd rywbryd eto.