Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a oedd wedi bod yn yfed a gyrru wedi cael ei wahardd rhag gyrru eto ar ôl cael ei ddal yn gyrru dan ddylanwad am y pedwerydd tro ers 2004.
Cafodd David Richards, 67 oed, o Ros-y-garth, Llanilar, ei wahardd am dair blynedd a thri mis yn Llys Ynadon Aberystwyth ar 10 Mawrth, pan ymddangosodd o’r ddalfa, ar ôl cael ei arestio’r diwrnod cynt.
Dim ond ers tri mis roedd wedi cael ei drwydded yn ôl yn dilyn ei waharddiad blaenorol am yfed a gyrru.
Mae ei waharddiad diweddaraf yn dod a’i waharddiad gyrru i fwy na 12 mlynedd.
Gwelodd swyddogion o Uned Plismona’r Ffyrdd Ceredigion (Heddlu Dyfed-Powys) Vauxhall Corsa David Richards ar yr A485 yn Rhos-y-garth tua 6:30 p.m. ddydd Mercher, 9 Mawrth. A chan weithredu ar wybodaeth a awgrymai ei fod yn gyrru o dan ddylanwad, fe wnaethon nhw ei dynnu i mewn.
Pan siaradodd y swyddogion â Richards, roedd ei leferydd yn floesg, a methodd brawf anadl wrth ochr y ffordd pan ofynnwyd iddo wneud un.
Ar ôl ei arestio, rhoddodd Richards ddau sampl arall tra roedd yn y ddalfa. Roedd y ddau’n cynnwys 55 microgram o alcohol am bob 100 mililitr o anadl – y terfyn cyfreithiol yw 35.
Dywedodd y Rhingyll Dave Hawksworth o Uned Plismona’r Ffyrdd: “Mae Richards yn droseddwr yfed a gyrru mynych gyda nifer o euogfarnau a gwaharddiadau blaenorol, a dim ond tua thri mis yn ôl y daeth y diweddaraf ohonynt i ben.
“Cymerodd swyddogion gamau cyflym a phendant wrth arestio Richards am drosedd yfed a gyrru arall, ac oherwydd ei ddiffyg parch at y gyfraith a diogelwch defnyddwyr eraill y ffordd, llwyddon nhw i gael yr awdurdod i gadw Richards yn y ddalfa a’i ddwyn gerbron y llys nesaf.
“Roedd hyn yn waith rhagweithiol rhagorol gan y swyddogion o ran mynd â pherson peryglus oddi ar ffyrdd yr ardal.”
Yn ogystal â’i wahardd rhag gyrru, gorchmynnwyd Richards i dalu £245 mewn dirwyon a chostau llys.
Gofynnir i unrhyw un sy’n poeni am rywun y mae’n credu sy’n gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau gysylltu â’r heddlu ar 101 (neu 999 os yw’n cyflwyno perygl yn y dyfodol agos). Fel arall, cânt gysylltu â Crimestoppers Cymru’n ddienw ar 0800 555 111.