Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Fe nodwyd Wythnos Dwysáu Ymdrechion i Daclo Llinellau Cyffuriau (7-13 Mawrth) gan Heddlu Dyfed-Powys drwy roi stop ar weithrediad cyffuriau newydd gan achub plentyn rhag cam-fanteisio posibl, ac addysgu 2,500 o bobl am linellau cyffuriau.
Cymerodd swyddogion ran mewn gweithrediadau ledled ardal yr heddlu i darfu ar y cyflenwad cyffuriau. Bu'r swyddogion hefyd yn addysgu pobl am linellau cyffuriau, o blant ysgol i berchnogion gwestai a pharciau gwyliau, sy’n aml yn cael eu hecsbloetio gan gangiau.
Yn Stryd y Deml, Llandrindod, cafodd dau ddyn – un lleol ac un o orllewin canolbarth Lloegr – eu harestio yn dilyn gwarant cyffuriau, gydag amheuaeth eu bod yn cuddio cyffuriau y tu mewn i’w cyrff.
Yn ddiweddarach cynhyrchodd un gyffuriau wedi’u lapio mewn cling ffilm oedd wedi’i guddio yn ei anws. Roedd yn cynnwys 84 dêl o heroin a chrac cocên.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Gareth Roberts: “Rydyn ni’n gweithio’n ddiflino ac yn ddi-baid, gyda’n partneriaid, i adnabod bygythiadau fel llinellau cyffuriau yn ein cymunedau.
“Mae’r rhaglenni ymgysylltu ac addysgu rydyn ni’n eu harwain gydag adnoddau arbenigol, ymroddedig yr heddlu, partneriaid a’r gymuned o dan ein strategaeth Troseddau Cyfundrefnol Difrifol (INTACT), yn ein galluogi i gael gwybodaeth gywir a dibynadwy.
“Pan fyddwn ni’n adnabod bygythiadau, megis llinell cyffuriau yn yr achos hwn, rydyn ni’n defnyddio adnoddau i darfu arnyn nhw cyn gynted â phosibl fel nad yw’r bygythiad yn gwreiddio, gan ddod yn ei sgil y trais, yr ecsbloetio a’r dioddefaint sy’n gysylltiedig ag ef i’n cymunedau – yn enwedig i’r rhai mwyaf bregus.
“Rydyn ni’n parhau â’n hymdrechion di-baid i amddiffyn ein cymunedau rhag niwed, a dyna pam, yn ystadegol, mae Dyfed-Powys yn parhau i fod yn un o’r mannau mwyaf diogel i fyw ynddo.”
Fel rhan o’r wythnos dwysáu ymdrechion, arestiwyd saith person am droseddau amrywiol yn ymwneud â chyffuriau. Atafaelwyd hefyd 100 rap o heroin a chrac cocên, yn ogystal â £2,500 mewn arian parod a thri ffôn symudol, a fydd yn cael eu harchwilio i weld a ydynt yn llinellau delio.
Honnodd un dyn ei fod yn dioddef camfanteisio ac yn gwerthu’r cyffuriau o dan orfodaeth a bygythiadau o drais gan Grŵp Troseddau Trefnedig.
Trefnwyd y gwaith rhagweithiol hwn a’i gyflwyno gan INTACT, rhaglen bartneriaeth amlasiantaeth sy’n mynd i’r afael â thrais difrifol a throseddau trefnedig yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.
Roedd y gwaith yn cynnwys y canlynol:
O'r rhai a arestiwyd yn ystod Wythnos Dwysáu Ymdrechion i Daclo Llinellau Cyffuriau, mae tri wedi’u rhyddhau dan fechnïaeth a phedwar wedi’u rhyddhau dan ymchwiliad.
Os ydych chi’n grŵp cymunedol neu’n bartner sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am linellau cyffuriau, cysylltwch â thîm INTACT drwy e-bost: [email protected]