Stamp amser presennol: 19/06/26 03:50:38
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Carcharu gyrrwr peryglus am erlid a’i gwelodd yn taro tri cherbyd heddlu

Cynnwys y prif erthygl

Sir Benfro Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd: 15:20 03/05/2022

Mae gyrrwr a yrrodd i ffwrdd o’r heddlu, gan daro eu car, cyn arwain erlid 20 milltir a ddaeth i ben pan bigwyd ei gar ac roedd ei olwynion blaen i lawr i’w camogau, wedi ei garcharu am 14 mis, ac mae ei gar wedi’i gymryd oddi wrtho.

Tynnodd swyddogion gar BMW 1 Series du Jamie Adams drosodd ar y gerbytffordd tua’r dwyrain ar yr A477 rhwng y troad ar gyfer Stepaside ac Amroth ychydig cyn 2 o’r gloch fore ddydd Mawrth 12 Ebrill 2022.  

Ufuddhaodd Adams, 31 oed, o Deras Kimberley, Georgetown, Tredegar, i gychwyn, ond pan siaradodd swyddogion ag ef drwy ei ddrws agored a’i holi am ei ddefnydd o gyffuriau oherwydd y gwynt canabis a oedd yn dod o’i gar, taniodd Adams yr injan a gyrru i ffwrdd. Bu bron iddo lusgo swyddog gydag ef, a bwrodd gar heddlu cyn gyrru i ffwrdd ar gyflymder.

Dilynodd swyddogion, gan erlid Adams, a aeth i fyny i gyflymder o 100mya ar yr A477 cyn troi i ffwrdd a gyrru ar hyd lonydd gwledig yn ardaloedd Llanteg, Rhos-goch a Phentywyn, am 20 milltir.

Gwnaed ymgais aflwyddiannus i stopio ei gar. Gyrrodd Adams am yn ôl a tharo car heddlu cyn gyrru i ffwrdd.

Ceisiodd yrru i’r dwyrain yn y diwedd, pan lwyddodd swyddogion i osod pigau ar y ffordd yn ardal Sanclêr isaf.

Parhaodd Adams i oryrru ar ôl cael ei bigo, gan yrru ar gyflymder o 70mya mewn ardal 30mya.

Ceisiodd swyddog ar y ffordd o’i flaen arafu Adams a’i stopio, ond gyrrodd i mewn i’r car a gyrru i ffwrdd eto.

Â’i olwynion blaen yn dadchwythu, daliodd Adams ati i oryrru, gan ymuno â’r A40 a theithio i gyfeiriad Caerfyrddin.

 swyddogion yn ei ddilyn, trodd Adams i mewn i Fancyfelin, lle ddaeth ei deiar blaen cyntaf i ffwrdd. Ni rwystrodd hyn Adams, a daliodd ati i yrru drwy’r pentref, lle y collodd ei ail deiar blaen.

Lawr i’r camogau, aeth Adams yn ei flaen, gan ailymuno â’r A40 a theithio i’r dwyrain.

Bryd hynny, cynlluniodd swyddogion dacteg stopio, a weithredwyd ychydig heibio i’r orsaf betrol ar Heol Dinbych-y-pysgod. Arestiwyd Adams am yrru’n beryglus, ymysg cyhuddiadau eraill.

  • Jamie Adams pic
    Jamie Adams
  • Police Exhibit RB
  • Police Exhibit RB
  • Police Exhibit RB
  • RLM 2
  • RLM 2
  • Sleid flaenorol
  • Sleid nesaf
  • Jamie Adams

Ar ôl pledio’n euog i yrru’n beryglus, dedfrydwyd Adams yn Llys y Goron Abertawe heddiw.

Dywedodd Cwnstabl Robin Benbow, Swyddog Plismona’r Ffyrdd: “Gyrrodd Adams yn beryglus a chyflym, heb ystyried diogelwch unrhyw un arall a allai fod wedi bod ar y ffordd.

“Gwyrodd yn rheolaidd er mwyn atal swyddogion rhag goddiweddyd a chyflawni symudiadau i ddod ag ef i stop, a difrododd dri cherbyd heddlu yn ei ymdrechion taer i osgoi cael ei arestio.

“Hyd yn oed pan ddifethwyd ei deiars, ceisiodd ddianc, a pharhaodd i yrru’n gyflym.

“Drwy waith tîm da, arhosodd swyddogion yn amyneddgar i gymryd eu cyfle i ddod â’r sefyllfa i ben yn ddiogel.”

Cafodd Adams ei wahardd rhag gyrru am bedair blynedd a hanner hefyd, a bydd yn rhaid iddo sefyll prawf gyrru estynedig. Gwnaed gorchymyn llygredd ar gyfer y cerbyd, a gorchmynnwyd Adams i dalu gordal dioddefydd o £156 hefyd.


Allwch chi ymuno i helpu cadw ein cymunedau yn ddiogel, ar draws yr ardal heddlu mwyaf yng Nghymru a Lloegr? Rydym yn recriwtio swyddogion yr heddlu nawr. Dechreuwch eich taith a dewch o hyd i ragor o wybodaeth YMA

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.