Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion yn dilyn y gwrthdrawiad traffig a ddigwyddodd yn Llanfair Caereinion brynhawn Llun, 23 Mai 2022, a oedd yn cynnwys bws ysgol a phlant o oed ysgol gynradd. Cafodd un dyn a phedwar o blant eu cludo i’r ysbyty.
Dywedodd y Rhingyll Robert Hamer o Uned Plismona’r Ffyrdd:
“Digwyddodd y digwyddiad wrth i’r ysgol orffen am y diwrnod ac roedd llawer o bobl yn casglu plant ar y pryd. Rydym eisoes wedi siarad â nifer o dystion ac rydym yn awr yn gofyn i unrhyw un a oedd yng nghyffiniau’r ysgol gynradd ac uwchradd ar Lôn y Neuadd, ac a allai fod wedi bod yn dyst i’r digwyddiad, gysylltu â ni. Byddem yn apelio’n arbennig at unrhyw un a oedd wedi parcio yn yr ardal, ac a allai fod â recordiadau dash-cam o’r digwyddiad, i gysylltu â ni."
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu swyddogion gyda’u hymchwiliad gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys, naill ai ar-lein ar https://bit.ly/HDPCysylltuArLein drwy e-bostio [email protected], neu drwy ffonio 101. Os ydych chi’n fyddar, yn drwm eich clyw, neu â nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif nad yw’n argyfwng, sef 07811 311 908.
Rhowch y cyfeirnod: DP-20220523-232.