Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a ffilmiodd ei hun yn treisio dynes ar ffôn ei ddioddefydd wedi newid ei ble i euog hanner ffordd drwy ei achos llys.
Ymosododd Cameron Hassan, 31 oed, sydd heb gartref sefydlog, ar y ddynes, gan ei threisio wrth iddi gysgu yn Rhydaman ar 21 Awst 2021.
Roedd Hassan wedi bod o flaen ei well yn Llys y Goron Abertawe ar ôl gwadu ei fod wedi gwneud unrhyw beth o’i le. Fodd bynnag, ar ôl i’r rheithgor weld fideo o’r ymosodiad, ac ar ôl clywed bod y dioddefydd yn mynd i roi tystiolaeth ddoe (dydd Mawrth 10 Mai), newidiodd Hassan ei ble i euog.
Dywedodd y Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Gwnstabl Sophie Lambert, bod y dioddefydd wedi dangos cryfder a phenderfynoldeb aruthrol drwy gydol yr ymchwiliad.
“Mae’n rhaid imi ganmol ei dewrder aruthrol yn dod ymlaen, a’r cryfder y mae wedi dangos drwy gydol yr ymchwiliad,” meddai.
“Gobeithiwn fod yr achos hwn yn dangos bod Heddlu Dyfed-Powys yn gweithredu ar honiadau difrifol megis trais ac ymosodiadau rhywiol, a bod swyddogion yn gweithio’n ddiflino er mwyn sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr.
“Os ydych chi’n dioddef oherwydd cam-drin tebyg, cysylltwch â’r heddlu. Os fyddai’n well gennych siarad â rhywun yn gyfrinachol, mae Llwybrau Newydd yn elusen annibynnol a fydd yn eich cefnogi drwy bob cam o’r ymchwiliad.”
Gellir cysylltu â Llwybrau Newydd drwy alw 01685 379 310 neu drwy anfon e-bost at [email protected].
Medrwch adrodd amdano wrth Heddlu Dyfed-Powys ar-lein ar https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/, drwy anfon e-bost at [email protected], neu drwy alw 101.