Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu dyn 18 oed a laddwyd mewn gwrthdrawiad un cerbyd ar ffordd y B4568 rhwng Aberhafesb a’r Drenewydd ddydd Llun 2 Mai wedi talu teyrnged i “fab, brawd, ŵyr, nai, cefnder a ffrind cariadus”.
Galwyd y gwasanaethau brys i leoliad y gwrthdrawiad, a oedd yn ymwneud â char Ford Fiesta glas, tua 4.50 o’r gloch y bore, ond er waethaf eu hymdrechion, datganwyd bod Owen Paul Bennett yn farw yn y fan a’r lle.
Y mae ei deulu bellach wedi siarad am eu trallod ac wedi diolch i’r gwasanaethau brys wrth iddynt dalu teyrnged i’r ymladdwr tân ifanc, gan ddweud:
“Ni all geiriau fynegi gymaint o ergyd ydoedd i golli Owen Paul Bennett (Latham), ag yntau ond yn 18 oed. Mae’r teimlad llethol o alar a thor calon wedi llorio pawb ohonom.
“Roedd Owen yn fab, brawd, ŵyr, nai, cefnder a ffrind cariadus – bydd pawb ohonom yn ei golli’n fawr.
“Aeth i Ysgol Gynradd Caersws, ac Ysgol Uwchradd Llanidloes. Aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg y Drenewydd, lle’r oedd ar fin gorffen ei brentisiaeth mewn gwaith coed wrth weithio i gwmni EOM – crefft a phrofiadau lu yr oedd yn eu caru, a oedd yn ysgogi ei ddyheadau gyrfa hirdymor. Yr oedd hefyd yn gweithio rhan amser i gwmni Costcutter yn y Drenewydd a Chaersws.
“Ar ôl iddo raddio fel ymladdwr tân ifanc, dychwelodd Owen fel hyfforddwr gwirfoddol i gefnogi’r rhai a oedd yn dilyn ôl ei droed. Gwirfoddolodd ar gyfer nifer o ddigwyddiadau a chlybiau hefyd, a’i hoff rai oedd digwyddiadau beicio mynydd disgynnol, Clwb Nofio’r Drenewydd a Rasys Malu Ceir Betws.
“Yr oedd wrth ei fodd yn treulio amser gyda’i deulu a’i ffrindiau, ac roedd yn ffotograffydd brwd.
“Yr oedd yn ddyn ifanc caredig, meddylgar a gofalgar. Roedd ganddo synnwyr digrifwch arbennig ac roedd bob amser yn galon-agored. Byddai’n helpu eraill o’i gwmpas o hyd, a dyna sut yr ydym am iddo gael ei gofio.
“Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi rhoi cymorth a chefnogaeth. Mae llawer o atgofion eisoes wedi’u rhannu, a gofynnwn am i hyn barhau oherwydd mae’n gysur mawr inni oll.
“Wedi’i gymryd yn rhy fuan o lawer, bydd nifer yn gweld eisiau ei wên ddireidus a’i hapusrwydd yn ardaloedd Caersws a’r Drenewydd a’r cyffiniau.
“Diolchir yn arbennig i’r holl wasanaethau brys, yn lleoliad y digwyddiad ac am y cymorth a roddwyd i ni fel teulu ers hynny. Gwyddwn fod nifer ohonoch yn agos i Owen, ac ni allwn fynegi ein diolch digon am y gwaith rydych chi’n ei wneud a’r amgylchiadau yr ydych yn eu hwynebu ar adegau fel hyn.
“Bydd ei deulu a’i ffrindiau i gyd yn gweld eisiau Owen yn fawr, a bydd lle iddo yn ein calonnau am byth.
“Fel teulu, yr ydym yn awr yn barchus ofyn am amser a phreifatrwydd i alaru a dod i delerau â’n colled.”