Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:18 10/11/2022
Cyfaddefodd Karl Longhurst ei fod wedi cymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol gyda’r ddynes, ond ceisiodd ddadlau mai camymddwyn oedd hyn, nid camymddwyn difrifol.
Fodd bynnag, penderfynodd panel gwrandawiad camymddygiad, a gafodd ei gadeirio gan gadeirydd â chymwysterau cyfreithiol, bod ymddygiad Mr Longhurst wedi torri’r Safonau Ymddygiad Proffesiynol sy’n ymwneud â Gonestrwydd ac Unplygrwydd, Gorchmynion a Chyfarwyddiadau, Awdurdod, Parch a Chwrteisi, Dyletswyddau a Chyfrifoldebau, ac Ymddygiad Gwarthus a Chyfrinachedd, a bod hyn gyfystyr â chamymddwyn difrifol.
Dywedwyd wrth y gwrandawiad y bu Mr Longhurst mewn perthynas rywiol ag aelod benywaidd o’r cyhoedd, a’i fod wedi parhau i ddilyn y berthynas hon ar ôl cyswllt heddlu swyddogol â hi, er ei bod hi’n agored i niwed.
Methodd hefyd ag adrodd am y berthynas wrth yr heddlu yn unol â pholisi’r heddlu.
Tra bod y ddynes yn y ddalfa, gwnaeth Mr Longhurst sylwadau rhywiol amhriodol iddi.
Yn ogystal, cafodd Mr Longhurst fynediad amhriodol at gofnodion heddlu cyfrinachol a oedd yn ymwneud â’r ddynes.
Ar ôl dod yn ymwybodol o’r mater, gweithredodd yr Adran Safonau Proffesiynol ar unwaith, ac wedi hynny, gwnaethant gyfeiriad i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, a benderfynodd gynnal ymchwiliad annibynnol.
Yn ogystal â chael ei ddiswyddo yng ngwrandawiad heddiw (10 Tachwedd), bydd Mr Longhurst nawr yn cael ei ychwanegu at Restr Waharddedig y Coleg Plismona i’w atal rhag ailymuno â’r gwasanaeth heddlu yn y dyfodol.
Dywedodd Claire Parmenter, Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys, “Mae’r canlyniad hwn yn dangos na fydd Heddlu Dyfed-Powys yn dioddef ymddygiad amhriodol.
“Mae Heddlu Dyfed-Powys yn disgwyl y safonau uchaf wrth ei holl swyddogion a staff, a bydd yn sicrhau y gall aelodau o’r cyhoedd gael ffydd a hyder llwyr yn yr heddlu a’i swyddogion a’i staff.
“Lle mae ymddygiad swyddogion a staff yn syrthio’n is na’n safonau uchel disgwyliedig, gall y cyhoedd fod yn sicr y bydd camau gweithredu cadarnhaol yn cael eu cymryd gan yr heddlu bob amser.”