Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ond mae swyddogion yng Nghymru’n atgoffa pobl sy’n edrych ymlaen at noson allan i beidio â gyrru ar ôl yfed alcohol neu gymryd cyffuriau.
Mae’r pedwar heddlu yng Nghymru – Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu Gogledd Cymru, Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent – wedi lansio eu hymgyrch yn erbyn yfed a gyrru a gyrru ar gyffuriau dros y Nadolig yn gynt er mwyn cynnwys Cwpan y Byd.
Maen nhw’n anelu i ddal pobl sy’n peryglu eu bywydau, a bywydau pobl eraill, drwy yrru dan ddylanwad alcohol a/neu gyffuriau.
Dywedodd Marc Travis, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, mai bwriad yr ymgyrch yw ceisio atal bywydau’n cael eu colli’n ddiangen oherwydd gyrwyr anghyfrifol sy’n torri’r gyfraith.
Ychwanegodd: “Ar ôl dwy flynedd anodd, yn naturiol, bydd pobl eisiau mwynhau eu hunain y Nadolig hwn. Mae’r heddlu’n awyddus i bobl fwynhau Cwpan y Byd, y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn ddiogel.
Yr ydym yn atgoffa aelodau o’r cyhoedd y gall mynd tu ôl i’r llyw dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau arwain at ganlyniadau difrifol.
“Nid dim ond am golli trwydded yr ydym yn sôn, sy’n aml yn arwain at golli swydd. Mae gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau’n arwain at lawer gormod o wrthdrawiadau difrifol ac angheuol. Gall hyn arwain at garchar a chanlyniadau ar gyfer sawl teulu.
“Gwnewch yn siŵr nad chi yw’r un sy’n gyfrifol am ddinistrio teulu’r Nadolig hwn. Bydd ein staff ar y ffyrdd yn edrych am bobl sy’n yfed a gyrru. Gall unrhyw un sy’n cael ei ddal ddisgwyl fod yn y llys o fewn saith diwrnod ar ôl cael ei arestio.”
Yn ystod ymgyrch y llynedd, a gynhaliwyd o 1 Rhagfyr 2021 tan 1 Ionawr 2022, arestiwyd 299 o unigolion am yfed a gyrru, ac arestiwyd 202 am yrru ar gyffuriau.
Digwyddodd bron 100 o’r arestiadau hynny – 85 am yfed a gyrru ac 14 am yrru ar gyffuriau – yn dilyn gwrthdrawiadau traffig y ffyrdd.
Dechreuodd ymgyrch estynedig 6 wythnos o hyd eleni yn erbyn gyrru dan ddylanwad alcohol a/neu gyffuriau ddydd Llun 21 Tachwedd er mwyn cynnwys Cwpan y Byd. Bydd swyddogion ledled y wlad yn defnyddio tactegau wedi eu harwain gan gudd-wybodaeth a gwybodaeth leol ynghylch mannau problemus i ganfod pobl sy’n yfed a gyrru neu’n gyrru ar gyffuriau adeg y Nadolig.
Dywedodd yr Arolygydd Andy Williams o Heddlu Dyfed-Powys: “Wrth i dymor y Nadolig gychwyn, rydym yn atgoffa gyrwyr am beryglon a chanlyniadau yfed a gyrru neu yrru ar gyffuriau.
“Bydd swyddogion o’r Unedau Plismona’r Ffyrdd, y Timoedd Bröydd Mwy Diogel a’r Heddlu Gwirfoddol yn gweithio 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Dylai unrhyw un sy’n ystyried yfed a gyrru neu yrru ar gyffuriau wybod y byddwn ni allan yn disgwyl amdanynt.”
Mae’n debygol y bydd rhai partïon swyddfa’n dychwelyd eleni. Gan gadw hynny mewn cof, mae swyddogion yn gofyn i bobl gynllunio ymlaen llaw, meddwl am yr hyn y byddant o bosibl yn ei wneud, a sicrhau eu bod nhw’n trefnu tacsi i fynd â nhw adref.
Maen nhw hefyd yn atgoffa pobl mai dwy uned yw’r terfyn o ran yfed a gyrru, nid dwy ddiod.
“Mae ein neges yn syml; os ydych chi allan ac yn gwybod y byddwch chi’n yfed, sicrhewch fod cynlluniau gyda chi ar gyfer mynd adref yn ddiogel, heb yrru,” meddai’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Travis.
“Os oes rhaid ichi yrru, fe’ch cynghorwn i beidio ag yfed alcohol o gwbl. Dim alcohol yw’r unig derfyn diogel.”