Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae chwech o bobl wedi’u carcharu am eu rhannau mewn giang troseddu trefnedig a fasnachodd llawer iawn o gocên a chanabis i Sir Benfro.
Daliwyd y grŵp troseddu trefnedig o dan Ymgyrch Rookley, sef ymgyrch gudd gan Dîm Troseddau Difrifol a Throseddu Trefnedig Heddlu Dyfed-Powys, a chwalodd y giang a oedd yn trosglwyddo’r cyffuriau Dosbarth A a Dosbarth B rhwng Dorset, Glannau Merswy a Sir Benfro dros gyfnod o 11 mis.
Heddiw yn Llys y Goron Abertawe, dedfrydwyd Leigh Smith, 44 oed, o Owls Road, i 3 blynedd a 9 mis; dedfrydwyd Shaun Lucas, 48 oed, o Dŷ Cornel, Park Street, Abergwaun, i 9 mlynedd ac 8 mis; a dedfrydwyd Terence Harrison, 43 oed, o orllewin Kings Road, Swanage, i 8 mlynedd a 4 mis.
Roedd y tri wedi pledio’n euog i gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a B mewn gwrandawiad cynharach.
Yn gynharach y mis hwn, dedfrydwyd Ozan Kilicaslan, 30 oed, o Ashley Road, Poole, i 41 wythnos o garchar ar ôl pledio’n euog i wyngalchu arian a chynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth B.
Dedfrydwyd Charlotte Doe, 32 oed, o Halves Cottages, Corfe Castle, i 13 mis o garchar a dedfrydwyd Ryan Ager, 34 oed, o Pilch Bank Road, Lerpwl, i 19 mis o garchar, ar ôl i’r ddau bledio’n euog i wyngalchu arian.
Bydd Leone James, 33 oed, o Precelly Crescent, Stop and Call, Wdig, yn cael ei ddedfrydu ddydd Gwener 16 Rhagfyr ar ôl pledio’n euog i gynllwynio i werthu cyffuriau dosbarth B.
Cafwyd wythfed unigolyn, Steven John Kerr, 35 oed, o Tracks Lane, Billinge, ger Wigan, yn ddieuog o wyngalchu arian yn dilyn achos llys.
Dywedodd yr uwch swyddog ymchwilio, y Ditectif Arolygydd Richard Lewis: “Roedd hon yn ymgyrch hir a oedd yn cynnwys nifer o adrannau ledled yr heddlu a wnaeth ymchwilio i gudd-wybodaeth, cydlynu cyfres o warantau, cyfweld â’r diffynyddion a chynnal ymholiadau i’w gweithgarwch.
“Mae dedfryd heddiw’n ddiwedd ar dros flwyddyn o waith heddlu, a welodd gadwyn gyflenwi fawr i mewn i Sir Benfro’n cael ei haflonyddu a giang troseddu trefnedig a oedd, heb os, yn gysylltiedig â gweithgarwch anghyfreithlon ar raddfa ehangach, yn cael ei chwalu.”
Lucas oedd arweinydd y giang o ardal Wdig. Cafodd y cyffuriau gan Harrison, sydd o Lerpwl yn wreiddiol ond sy’n byw yn Dorset erbyn hyn. Roedd Lucas yn gyfrifol am werthu’r cocên a’r canabis ymlaen yn Abergwaun ac ardaloedd eraill yn Sir Benfro.
Defnyddiodd Lucas gyfeiriad ei bartner, James, yn Stop & Call, Wdig, fel canolfan i drefnu’r rhwydwaith gyflenwi a gwasanaethu ei gwsmeriaid niferus.
Defnyddiodd y cyfeiriad hwn hefyd i gwrdd â’r cludwyr Kilicaslan a Smith, a oedd yn gyfrifol am ddosbarthu’r cyffuriau, yn ogystal â’r rhai a oedd yn gyfrifol am gasglu’r arian a gynhyrchwyd drwy werthu’r cocên a’r canabis.
Fel rhan o’r aflonyddu, atafaelodd yr heddlu 244g o gocên wrth iddo gael ei drosglwyddo o Dorset i Sir Benfro ym mis Hydref 2021. Serch y camau gorfodi hyn, fe wnaethant barhau â’u gweithredoedd anghyfreithlon, ac ym mis Rhagfyr 2021, arestiwyd Kilicaslan ar ei daith adref o gyfeiriad cartref Lucas.
Roedd ei gerbyd yn arogli’n gryf o ganabis a phrofwyd bod canabis yn bresennol yn ei gorff yn ystod prawf cyffuriau ar ochr y ffordd. Daeth swyddogion o hyd i £15,000 a oedd yn gysylltiedig â Lucas yn ei gerbyd.
Yn dilyn yr aflonyddu pellach hwn, parhaodd y giang i ddod â chocên a chanabis i mewn i ardal Sir Benfro er mwyn i Lucas ei werthu, a llai na thair wythnos yn ddiweddarach, dosbarthodd Smith lawer iawn o gocên i Lucas yn ei gyfeiriad cartref.
Ym mis Ionawr 2022, arestiwyd Doe wrth iddi ddychwelyd adref i Dorset o gyfeiriad cartref Lucas. Daeth swyddogion o hyd i dros £26,700 mewn dau fwndel yn ei cherbyd, a gafodd eu cysylltu’n ddiweddarach i Lucas a Harrison. Drannoeth, parhaodd y giang â’u hymdrechion, a theithiodd Lucas i Dorset er mwyn cwrdd â Harrison.
Ym mis Mawrth 2022, gwelodd cam arestio bythefnos o hyd wyth unigolyn yn cael eu harestio yn ardaloedd Glannau Merswy, Manceinion Fwyaf, Dorset a Sir Benfro.
Ildiodd Ryan Ager, a wrthododd ymgysylltu â swyddogion ar y pryd, ei hun i orsaf heddlu Glannau Merswy. Cyhuddwyd wyth o’r bobl hyn, gan gynnwys Ager, o fod yn gysylltiedig â chynllwyn i gyflenwi cocên. Cyhuddwyd Harrison, Lucas a Smith o fod yn gysylltiedig â chynllwyn i gyflenwi canabis yn ddiweddarach hefyd. Cyfaddefodd y tri i’r troseddau hyn.
Cyfaddefodd Kilicaslan i’w ran yn y cynllwyn i gyflenwi canabis a’i gysylltiad â throseddau gwyngalchu arian yn ddiweddarach.
Cyfaddefodd Doe ac Ager i’w cysylltiad â throseddau gwyngalchu arian, ac yn ddiweddarach, cyfaddefodd James i’w rhan mewn gwerthu canabis.
Dywedodd Comander Sir Benfro, yr Uwch-arolygydd Anthony Evans: “Fel heddlu, yr ydym yn blaenoriaethu targedu’r bobl hynny sy’n dod â chyffuriau i mewn i’n hardal a’u gwerthu, felly mae’n dda gennym ein bod wedi sicrhau’r canlyniad hwn.
“Bydd gwaith pellach nawr yn cael ei gyflawni mewn perthynas ag ymchwiliad Deddf Elw Troseddau, sydd wedi’i hanelu at atafaelu asedau troseddol a gafwyd drwy weithgareddau anghyfreithlon.
“Mae Ymgyrch Rookley wedi arwain at aflonyddu ar gyflenwi cyffuriau yn Sir Benfro ac yn dangos bod Heddlu Dyfed-Powys yn benderfynol o atal troseddwyr teithiol rhag dod i mewn i’r ardal.”
Er mwyn adrodd am ymddygiad amheus yn eich ardal chi, galwch heibio i https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni-beta/cysylltu-a-ni/, e-bostiwch [email protected], neu galwch 101.
Os ydych chi’n fyddar neu’n drwm eich clyw, neu os oes gennych nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys 07811 311 908.
Fel arall, cysylltwch â’r elusen annibynnol Crimestoppers Cymru’n ddienw ar 0800 555111, neu galwch heibio i crimestoppers-uk.org.