Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
17:45 18/10/2022
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cychwyn adolygiad fforensig o ddeunydd a gadwyd mewn cysylltiad â marwolaethau brawd a chwaer, Martha a Griff Thomas, yn Ffynnon Samson, Llangolman, yn 1976. Canfu’r cwest gwreiddiol yn 1977 bod Martha wedi’i lladd yn anghyfreithlon, tra bod rheithfarn agored wedi’i chofnodi yn achos Griff.
Mae’r gwaith o nodi pa ddeunydd oedd ar ôl a dichonolrwydd archwiliad pellach, mewn ymgynghoriad â gwyddonwyr fforensig, yn awr wedi’i gwblhau, ac yn seiliedig ar y cyngor, credir y gellir gweithredu technegau modern i sefydlu pa un ai a oes tystiolaeth ychwanegol yn bresennol ar nifer cyfyngedig o eitemau a allai fod yn berthnasol i’r achos hwn.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Paul Jones:
“Yn ystod y deugain mlynedd diwethaf, gwelwyd datblygiadau sylweddol mewn gwyddoniaeth fforensig, a allai roi gwybodaeth ychwanegol mewn achosion mor hen â hyn hyd oed. Er bod yr ymchwiliad ar y pryd (1976) yn drylwyr, roedd y wyddoniaeth fforensig yn gyfyngedig o’i chymharu â heddiw, a byddwn ni’n archwilio pa un ai a all technegau modern daflu goleuni pellach ar y digwyddiadau yn Ffynnon Samson yn 1976.
“Ar hyn o bryd, ni wyddwn pa atebion, os o gwbl, fydd yr adolygiad fforensig yn rhoi inni, ond rwy’n cadw meddwl agored.
“Byddwn ni’n parhau i roi gwybod i’r teulu am unrhyw ddatblygiadau.”