Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Arestiwyd dau ddyn, ymwelwyd â 19 dioddefydd blaenorol a oedd yn agored i gamfanteisio, ac addysgwyd dros 500 o blant gan swyddogion ledled Dyfed-Powys yn ystod wythnos o weithredu targedig ar gyfer aflonyddu ar linellau cyffuriau.
Llinellau cyffuriau yw’r enw a roddir i weithgarwch gwerthu cyffuriau lle mae grwpiau troseddu trefnedig yn symud ac yn cyflenwi cyffuriau, a hynny o ddinasoedd i drefi llai ac ardaloedd gwledig fel arfer.
Mae’r gweithgarwch hwn wedi cyd-daro ag “wythnos ddwysu” genedlaethol, a arweinir gan yr Asiantaeth Troseddu Genedlaethol.
Ar gyfer ardal Dyfed-Powys, mae ein huchafbwyntiau’n cynnwys y canlynol:
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Gareth Roberts, arweinydd cyffuriau gweithrediadol: “Mae canlyniad ein hymateb i’r Wythnos Dwysáu Llinellau Cyffuriau genedlaethol yn dystiolaeth o’n hymrwymiad tuag at amddiffyn ein cymunedau rhag camfanteisio a niwed.
“Gan weithio gyda’n cymunedau a’n partneriaid, yr ydym yn nodi’r ardaloedd a’r bobl fwyaf bregus yn ein cymuned, ynghyd â’r rhai sy’n camfanteisio arnynt ac yn cyflawni troseddau llinellau cyffuriau.
“Mae gan Heddlu Dyfed-Powys strategaeth a chynllun cyflenwi clir ar gyfer mynd i’r afael â llinellau cyffuriau a throseddu trefnedig.
"Mae ein llwyddiant parhaus o ran erlid troseddwyr yn amlwg. Mae gennym adnodd sefydledig, ymrwymedig, penodol – INTACT – sy’n atal pobl ifainc rhag ymwneud â throseddu, yn paratoi’r gymuned i fod yn wyliadwrus, ac yn gwarchod y rhai sy’n agored i gamfanteisio yn ein cymunedau.
“Roedd INTACT yn allweddol o ran cyflenwi cyfnod dwysáu llwyddiannus.”
Un rhan o gysylltiad INTACT â’r wythnos ddwysáu oedd trefnu amrediad o ddigwyddiadau wedi’u hanelu at addysgu pobl ifainc am y peryglon a gyflwynir gan Linellau Cyffuriau, a’u galluogi i roi cynnig ar weithgareddau newydd, diogel.
Dywedodd Rachel O’Neill, Cydlynydd Trais Difrifol a Throseddu Trefnedig: “Cynigiom weithgareddau amgen i gadw pobl ifainc yn ddiogel, yn ogystal â’u galluogi i gael hwyl, dysgu sgiliau newydd, a meithrin perthnasau cadarnhaol gyda modelau rôl sy’n gweithio yn eu hardal leol yn barod.
“Un enghraifft o hyn yw partneriaeth gyda Boxwise Llundain i gyflwyno gweithgareddau bocsio dargyfeiriol ar gyfer pobl ifainc yn ein cymunedau.
"Lansiwyd y sesiynau yn ystod Wythnos Ddwysáu Llinellau Cyffuriau. Byddant yn cael eu cynnal am y 10 wythnos nesaf yn Llanelli, Doc Penfro, Treletert, Llandysul ac Aberhonddu.
“Os ydych chi’n awyddus i gymryd rhan ac ymuno yn y sesiynau hyn, cysylltwch â’ch gorsaf heddlu leol.”