Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ennill Gwobr Arian 2022 ar gyfer y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn (ERS).
Cyflwynwyd y wobr ERS mewn seremoni a gynhaliwyd yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd fel cydnabyddiaeth am gefnogaeth y sefydliad i’r sector amddiffyn ac am ddangos eiriolaeth i gymuned y lluoedd arfog.
Derbyniwyd y wobr gan y Ditectif Uwcharolygydd Paul Jones, sy’n arwain rhwydwaith staff Cyn-filwyr Lluoedd Arfog Heddlu Dyfed-Powys.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Steve Cockwell, a oedd hefyd yn bresennol yn y seremoni: “Mae’n anrhydedd fawr i’n sefydliad dderbyn y wobr arbennig hon.
“Rydyn ni’n cydnabod y sgiliau trosglwyddadwy y gall y rhai sy’n gadael y lluoedd arfog a chyn-filwyr eu cyflwyno i wasanaeth yr heddlu, ac rydyn ni’n hynod falch o gael ein cydnabod fel cyflogwr cefnogol i’r rhai sydd wedi gwasanaethu i amddiffyn ein rhyddid.
“Mae’r wobr hon hefyd yn taflu goleuni ar ein Rhwydwaith Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog y mae cyfraniad ei aelodau’n cael ei werthfawrogi’n fawr. Mae'r rhwydwaith staff yn hyrwyddo swyddogion heddlu a staff sy'n gyn-filwyr, yn filwyr wrth gefn, a'u teuluoedd. Ynghyd â’r Heddlu maen nhw’n benderfynol o wella gwaith partneriaeth o fewn cymuned y lluoedd arfog a chefnogi’r gwaith o gyflawni Cyfamod y Lluoedd Arfog.”
Yn ystod y digwyddiad cafodd 22 o sefydliadau o bob cwr o Gymru eu gwobrwyo gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer y cynllun ERS.
Yn cyflwyno’r gwobrau oedd y Brigadwr Andrew Dawes CBE, Comander Brigâd 160 y Milwyr Traed (Cymru), y Comander Adain Martin Morris, Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr Rhanbarthol AIR (Cymru), Comander Steve Drysdale OBE, Pennaeth Cell Gweithrediadau’r Llynges Frenhinol a’r Môr mewn Offer Amddiffyn a Chymorth.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gobeithio annog busnesau eraill i ymuno â Chynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn (ERS). Cewch ragor o wybodaeth am y cynllun yma.