Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn un o 14 gwasanaeth heddlu i ymuno â’r rhaglen ehangu ar gyfer Ymgyrch Soteria Bluestone, sef rhaglen ymchwil a newid a arweinir gan Gyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu, sy’n cael ei hariannu gan y Swyddfa Gartref. Mae’r cynllun yn anelu i drawsnewid ymateb yr heddlu i droseddau rhywiol difrifol a threisio, ac fe fydd yn arwain at fodel gweithredu cenedlaethol a fydd yn cael ei gyflwyno i 43 gwasanaeth heddlu’r Swyddfa Gartref.
Gan weithio gydag academyddion blaenllaw, mae’r heddlu wedi cychwyn hunanasesiad cynaledig y mis hwn (Hydref 2022) er mwyn adolygu arferion presennol yng ngoleuni canfyddiadau ymchwil Ymgyrch Soteria Bluestone hyd yn hyn. Byddant yn defnyddio’r mewnwelediad hwn i roi cymorth wrth ddatblygu cynllun gwella, a bydd swyddogion yn cael mynediad at ddysgu a datblygu uwch, canllawiau arbenigol a chefnogaeth cymheiriaid drwy Rwydwaith Ddysgu Genedlaethol Ymgyrch Soteria Bluestone.
Mae meysydd ffocws allweddol ar gyfer y rhaglen wedi’u hysbysu gan astudiaethau academaidd, ymchwil craffu dwys a chynlluniau peilot mewn heddluoedd braenaru. Mae themâu’n cynnwys ymchwiliadau sy’n canolbwyntio ar y drwgdybyn, adnabod troseddwyr mynych, ymgysylltu â dioddefwyr, dysgu, datblygu a lles ar gyfer swyddogion, gwell defnydd o ddata a gwaith fforensig digidol.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Paul Jones: “Mae treisio’n un o’r troseddau mwyaf cymhleth a heriol yr ydym yn ymdrin â nhw o fewn y system cyfiawnder troseddol. Mae ein swyddogion wedi ymrwymo i sicrhau’r canlyniadau gorau ar gyfer dioddefwyr, ond mae lle i wella bob amser.
“Mae Ymgyrch Soteria Bluestone yn gyfle i gyflawni newid cynaliadwy gwirioneddol drwy ddadansoddi ein gweithdrefnau’n agored, ochr yn ochr â’r system cyfiawnder troseddol ehangach a gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr.
“Yr ydym wedi ymrwymo i weithio gydag academyddion i wella profiadau dioddefwyr a thynhau ein gafael ar droseddwyr. Fel mabwysiadwyr cynnar, yr ydym yn cyfrannu at ddatblygiad model gweithredu cenedlaethol newydd ar gyfer ymchwiliadau mwy effeithiol i achosion o dreisio.”
Ychwanegodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys: “Yr ydym yn cydnabod effaith sylweddol troseddau rhywiol a threisio ar ddioddefwyr, eu teuluoedd a’u ffrindiau, yn ogystal â’r gymuned ehangach. Er bod yr Heddlu eisoes yn rhoi llawer o sylw i’r ymateb i achosion o dreisio, cydnabu y gellir gwneud mwy i wella taith y dioddefydd, yn ogystal â chanlyniadau barnwrol achosion.
“Drwy fy Swyddfa, rwy’n comisiynu Llwybrau Newydd i ddarparu gwasanaethau cymorth ar gyfer dioddefwyr trais rhywiol a threisio, ac yn rhoi dros £300,000 y flwyddyn iddynt. Mae Llwybrau Newydd yn darparu mynediad 24 awr at gymorth adeg argyfwng a chymorth parhaus i ddioddefwyr trais rhywiol. Mae’r cymorth hwn yn cynnig gofal fforensig a chlinigol arbenigol, diogelu a chymorth cyntaf mewn man diogel. Wrth inni barhau i fuddsoddi yn eu gwasanaethau, byddwn yn annog unrhyw un sydd wedi dioddef i ddod ymlaen ac estyn allan am gymorth cyn gynted â phosibl, a pheidio â dioddef yn dawel.”
Mae sawl math o drais rhywiol, a bydd pob un sy’n profi trais rhywiol yn cael ei effeithio’n wahanol. Deallwn ei bod hi’n cymryd dewrder aruthrol i ddod ymlaen ac estyn allan, ond mae cymorth ar gael i bawb, waeth pa un ai a yw dioddefwyr yn dewis hysbysu’r heddlu ai peidio. Llwybrau Newydd yw’r darparwr cymorth trais rhywiol mwyaf yng Nghymru, ac mae ganddynt brofiad helaeth o gyflwyno cymorth arbenigol i oedolion a phlant sydd wedi’u heffeithio gan drawma achos o dreisio, ymosodiad rhywiol neu gam-drin rhywiol. Maent yn cynnig amrediad llawn o wasanaethau cwnsela, lles, eiriolaeth ac argyfwng arbenigol am ddim, ac fe’i hystyrir fel y sefydliad arweiniol yn y maes.
Byddem hefyd yn annog dioddefwyr a goroeswyr ymosodiadau rhywiol i geisio cymorth drwy ganolfannau cyfeirio ymosodiadau rhyw. Mae canolfannau cyfeirio ymosodiadau rhyw’n fannau diogel sy’n cynnig gofal penodol ar gyfer pobl sydd wedi’u treisio neu sydd wedi dioddef ymosodiad neu gam-drin rhywiol, ac maen nhw yno i bawb. Maent yn cynnig cymorth emosiynol, meddygol ac ymarferol arbenigol, a gall unrhyw un gysylltu â chanolfan gyfeirio ymosodiadau rhyw i wneud apwyntiad, neu ofyn i rywun arall, megis gweithiwr proffesiynol gofal iechyd, elusen, ffrind neu aelod o’r teulu, wneud hynny drostynt.
Os yw dioddefydd yn dewis adrodd am ymosodiad wrth yr heddlu, mae ymgynghorwyr sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig ar gael a fydd yn eu cefnogi drwy’r system cyfiawnder troseddol, pob cam o’r ffordd.
Galwch heibio i wefan Llwybrau Newydd ar https://www.newpathways.org.uk/cy/, neu er mwyn dod o hyd i ganolfan cyfeirio ymosodiadau rhyw, galwch heibio i CanolFannauAtgyfeirioYmosodiadauRhysiwol (CAYR)
Heddlu Avon a Gwlad yr Haf oedd y gwasanaeth heddlu cyntaf i dreialu Ymgyrch Soteria Bluestone, a hynny ddechrau 2021, mewn ymateb i adolygiad cyflawn y llywodraeth o dreisio. Bydd y rhaglen ehangu’n adeiladu ar y dysgu a nodwyd gan y pum heddlu a gymerodd ran yn Ymgyrch Soteria Bluestone yn wreiddiol; y Gwasanaeth Heddlu Metropolitanaidd, Heddlu Durham, Heddlu Gorllewin Canolbarth Cymru, a Heddlu De Cymru. Yn y pen draw, bydd y gwaith hwn yn arwain at y Model Gweithredu Cenedlaethol newydd a fydd yn cael ei ddefnyddio gan 43 gwasanaeth heddlu’r Swyddfa Gartref yng Nghymru a Lloegr.
Yr heddluoedd eraill sy’n gysylltiedig ag ehangu Ymgyrch Soteria Bluestone yw: Dyfnaint a Chernyw, Gwent, Gogledd Cymru, Northymbria, Swydd Gaerloyw, Swydd Warwick, Sir Gaerhirfryn, Manceinion Fwyaf, Swydd Hampshire, Swydd Wiltshire, Caint, Dorset a Sussex.