Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ddydd Iau 13 Hydref 2022, enillodd grŵp o gadetiaid Heddlu Dyfed-Powys o Dde Sir Benfro wobr arobryn, sef Gwobr yr Arglwydd Ferrers, a daeth Miss Meinir Loader, caplan heddlu o Rydaman, yn ail yn ei chategori hi.
Yn y seremoni wobrwyo, a gynhaliwyd yn Lancaster House, Llundain, cyflwynwyd y gwobrau gan Syr Martyn Lewis CBE, sef newyddiadurwr a aned yn Abertawe a gafodd ei urddo’n farchog am ei waith yn y sectorau gwirfoddol ac elusennol. Mae’r gwobrau’n cydnabod cyfraniad neilltuol Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu, yr Heddlu Gwirfoddol, a gwirfoddolwyr cymorth ar draws y sector plismona.
Roedd 11 categori gwobr i gyd, a chipiwyd y wobr gyntaf yn y categori Tîm Cadetiaid Heddlu Gwirfoddol gan Gadetiaid Heddlu Gwirfoddol De Sir Benfro. Mae’r wobr yn cydnabod unedau cadetiaid sy’n cydweithio er mwyn gwneud cyfraniad sylweddol a pharhaus i ‘weithredu cymdeithasol a arweinir gan bobl ifainc’ sy’n cefnogi plismona a’u cymunedau.
Dywedodd Stuart Wheeler, Rhingyll Plismona Bro Sir Benfro, a enwebodd y gwirfoddolwyr ifainc, “Mae’r cadetiaid wedi gweithio’n ddiflino dros y gymuned yn ystod y pandemig COVID-19 a thu hwnt.
“Maen nhw’n parhau i gynrychioli Heddlu Dyfed-Powys mewn digwyddiadau a chefnogi eu hardaloedd lleol, ac mae’n wych eu bod nhw wedi’u cydnabod am eu hymdrechion a’u hymrwymiad.”
Derbyniodd Simon Gough, Madeleine James, Gabrielle Davis, Ella Thomas, ac Oliver Monk eu gwobr, tra bod arweinwyr Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu’n eu gwylio â balchder.
Un o’r arweinwyr hynny oedd SCCH Andrew Griffiths, a ddywedodd, “Mae cael eu henwebu ar gyfer Gwobr yr Arglwydd Ferrers yn gyflawniad arbennig, ac yn wir, yn fraint fawr i Uned Cadetiaid Heddlu Gwirfoddol De Sir Benfro.
“Er mai dim ond rhai cadetiaid oedd yn medru bod yn bresennol yn y seremoni, mae pob un aelod o’r uned wedi gweithio’n galed. Mae eu hymrwymiad tuag at ddigwyddiadau a phrosiectau cymunedol heb ei ail, ac rwy’n eithriadol o falch o’n cadetiaid a’m cyd-arweinwyr.”
Daeth Miss Meinir Loader yn ail yn y categori Gwirfoddolwr Cefnogi’r Heddlu unigol am ei gwaith fel Caplan yng Ngorsaf Heddlu Rhydaman, Sir Gaerfyrddin.
O’r 170 enwebiad, daeth y cyn athrawes yn ail yn ei chategori hi, a hynny am ei hymrwymiad i’w rôl, a’r gofal arbennig mae hi wedi dangos i’r swyddogion a’r staff. Cafodd glod arbennig am ei dawn i gynnig cymorth ar adegau o ofid mawr, megis galar a hunanladdiad.
Dywedodd y Gwir Anrhydeddus Jeremy Quin AS, y Gweinidog Gwladol dros Drosedd, Plismona a Thân, “Mae gwirfoddolwyr yn rhan werthfawr o’n teulu plismona, ac rwyf yn teimlo’n wylaidd iawn yn gwybod bod cymaint o bobl sy’n barod i roi o’u hamser er mwyn helpu i amddiffyn eu cyd-ddinasyddion.
“Braint o’r mwyaf yw cael bod yma, i gydnabod yr hyn sy’n ymdrech enfawr ledled ein gwlad...Diolch yn fawr iawn ichi am wneud yr hyn yr ydych yn ei wneud!”
Wedi’ch ysbrydoli? Cliciwch ar y ddolen i ddarganfod mwy: Cwnstabliaid Gwirfoddol | Heddlu Dyfed-Powys.