Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn annog rhieni a gofalwyr i siarad â phlant a phobl ifanc am gadw’n ddiogel ar-lein.
Mae’r heddlu’n annog oedolion i gael sgyrsiau am beryglon ‘gor-rannu’ – rhannu gormod o wybodaeth amdanyn nhw’u hunain, neu ffotograffau neu fideos ohonyn nhw’u hunain – a’r hyn y gallan nhw ei wneud os bydd rhywun yn gofyn am neu’n anfon cynnwys rhywiol ei natur.
Eglurodd y Ditectif Arolygydd Phil Kite:
“Mae pobl ifanc yn eu harddegau’n rhannu lluniau a fideos preifat heb ddeall y gallen nhw gael eu defnyddio yn eu herbyn, neu eu rhannu ag eraill.
“Yn anffodus, rydyn ni wedi gweld achosion lle mae plant a phobl ifanc yn cael niwed am nad oedden nhw’n gwybod ble i droi am help.
"Rydyn ni yma i helpu a byddwn yn trin pob dioddefwr gyda phob gostyngeiddrwydd, sensitifrwydd a chyfrinachedd."
Mae ein tîm o Swyddogion Heddlu Ysgolion yn cyflwyno gwersi am ddiogelwch ar-lein ar draws ardal Dyfed-Powys, fel rhan o Raglen Ysgolion Heddluoedd Cymru. Nod yr heddlu yw sicrhau bod gan bobl ifanc dîm o oedolion y maen nhw’n ymddiried ynddyn nhw i drafod eu pryderon â nhw.
 DI Kite ymlaen:
“Mae troseddwyr yn targedu ac yn dod yn ffrindiau â’u dioddefwyr, ac unwaith y bydd ganddyn nhw ddelweddau neu fideos preifat neu rywiol eu natur, maen nhw’n ceisio blacmelio’r dioddefwyr i anfon arian neu fwy o luniau. Gelwir hyn yn flacmel rhywiol neu 'sextortion'.
“Mae’r troseddwyr hyn yn dibynnu ar bobl yn teimlo’n ynysig. Rydyn ni’n gofyn i rieni, gofalwyr, gwarcheidwaid a phob oedolyn yr ymddiriedir ynddyn nhw i gael sgwrs gyda phobl ifanc yn eu harddegau fel y gallan nhw droi atoch os ydyn nhw’n poeni am unrhyw beth y maen nhw’n ei weld neu ei wneud ar-lein.
“Dydyn ni ddim eisiau i unrhyw un deimlo mai nhw yw’r unig berson mae hyn wedi digwydd iddo - mae hynny ymhell o fod yn wir ac rydyn ni yma i helpu.
“Efallai ei fod yn anodd, ond ceisiwch ddod o hyd i ffordd i siarad â nhw am beryglon cyfryngau cymdeithasol.
“Anogwch nhw i stopio a meddwl os ydyn nhw'n derbyn cais ffrind gan rywun nad ydyn nhw'n ei adnabod - efallai nad ydyn nhw’r person maen nhw'n dweud ydyn nhw.”
Y cyngor i rieni yw:
I gael cymorth a chefnogaeth, ewch i SchoolBeat.cymru
Y cyngor i bobl ifanc yn eu harddegau, os ydyn nhw'n dioddef o flacmel rhywiol neu'n derbyn ffotograffau neu gynnwys anaddas, yw:
I gael rhagor o arweiniad i rieni ynglŷn â helpu plant a phobl ifanc yn eu harddegau i gadw’n ddiogel ar-lein, ewch i: https://www.getsafeonline.org/safeguarding-children/13-or-over/
Neu ewch i wefan yr NSPCC: https://www.nspcc.org.uk/preventing-abuse/child-abuse-and-neglect/child-sexual-abuse/