Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus ar ôl i swyddogion sylwi ar gynnydd yn nifer yr adroddiadau am ymgais i dwyllo yn ystod y dyddiau diwethaf.
Ar ôl derbyn 11 adroddiad yn ystod y deuddydd diwethaf, er bod y bobl hyn i gyd wedi gweld mai twyll ydoedd, roedd swyddogion yn ofni y gallai rhai pobl fod wedi’u twyllo heb sylweddoli hynny.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Gareth Jordan o Dîm Troseddau Economaidd Heddlu Dyfed-Powys: “Yr ydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr adroddiadau gan bobl sy’n dweud eu bod nhw wedi derbyn galwadau ffôn gan bobl yn esgus bod yn swyddogion heddlu sy’n dweud wrthynt fod eu cerdyn credyd wedi’i glonio.
“Yr ydym wedi derbyn 11 galwad o’r fath yn ystod y deuddydd diwethaf. Ymddengys eu bod yn targedu ardal Ceredigion.
“Does neb wedi adrodd am unrhyw golledion hyd yn hyn, ond mae’n bosibl ein bod ni ond yn clywed gan bobl sydd wedi deall mai twyll yw hyn.
“Yn aml, mae pobl ond yn sylweddoli eu bod nhw wedi dioddef trosedd o’r fath wythnosau’n ddiweddarach – pan mae’r troseddwr wedi llwyddo i’w twyllo.”
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Jordan bod y galwr yn dweud wrth y dioddefydd posibl ei fod yn gweithio i Dîm Twyll Arbenigol Gorsaf Heddlu Paddington neu Grîn Paddington.
Os yw’n galw llinell dir, mae’n dweud wrth y derbynnydd i alw 999 er mwyn cadarnhau mai’r heddlu sy’n galw, ond mae’r galwr yn cadw’r llinell ar agor.
Y nod yw cael y dioddefydd i ddatgelu manylion ei gerdyn credyd, neu ei gael i dynnu arian a chael cludwr i’w gasglu (Twyll Cludwr).