Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu dyn a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad traffig y ffyrdd ger Aberhonddu ddydd Sadwrn 27 Awst wedi talu teyrnged i’r beiciwr modur profiadol.
Roedd Dean Kayes, 53 oed, o Ferthyr Tudful yn wreiddiol, ond yn ddiweddar, yr oedd wedi bod yn byw yn ardal Castell-nedd.
Darllena’r deyrnged gan Moira, Kevin a Janine, a theulu ehangach Dean: “Roedd Dean yn aelod hoff iawn o’n teulu, a bydd pawb ohonom yn ei golli’n fawr.
“Dechreuodd Dean feicio pan gafodd ei feic sgrialu cyntaf yn 8 oed. Taniodd hynny’r angerdd dros feicio modur a barhaodd drwy gydol ei oes.
“Yr oedd yn feiciwr modur profiadol iawn â dros 40 mlynedd o brofiad.
“Yr oedd yn aelod uchel iawn ei barch o’r gymuned beicio modur leol yn Ne Cymru, a byddai’n aml yn mynd ar deithiau beicio modur dramor i Ffrainc, Sbaen a Phortiwgal gyda phobl o bob cwr o’r DU.”
Gan siarad am ddiwrnod y gwrthdrawiad, ychwanegodd y teulu: “Hoffem ddiolch i Heddlu Dyfed-Powys, y gwasanaethau brys, ffrindiau Dean a’r aelodau lleol o’r gymuned a gynorthwyodd yn lleoliad y gwrthdrawiad.
“Yr ydym ni fel teulu wedi’n cyffwrdd gan nifer y ffrindiau a phobl a oedd yn adnabod Dean sydd wedi estyn allan atom â’u cydymdeimladau. Bydd Dean yn ein calonnau a’n meddyliau am byth, ac ni fydd ein bywydau’r un fath hebddo.
Dywedodd y Rhingyll Matthew Thomas o uned plismona’r ffyrdd Heddlu Dyfed-Powys: “Mae ein cydymdeimladau dwysaf gyda theulu a ffrindiau Mr Kayes yn ystod y cyfnod anodd dros ben hwn.”
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad dau gerbyd ar hyd yr A470 ger Llandyfalle, De Powys, tua 5 o’r gloch nos Sadwrn 27 Awst 2022.
Gofynnir i unrhyw un a oedd yn teithio ar hyd yr A470 ger Llandyfalle ac a allai fod wedi gweld y digwyddiad hwn, neu a allai fod â darn ffilm camera cerbyd, i gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys ar-lein ar https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/, drwy anfon e-bost at [email protected], neu drwy alw 101.
Os ydych chi’n fyddar neu’n drwm eich clyw, neu os oes gennych nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys 07811 311 908.