Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu tad i ddau a laddwyd mewn gwrthdrawiad yn Hwlffordd ddydd Gwener (26 Awst) wedi talu teyrnged i’r ‘tad cariadus’.
Bu farw Andrew Clark, a oedd yn 34 oed ac yn cael ei adnabod yn lleol fel Clarky, yn lleoliad gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd ar Ffordd Freeman tua 5.30y.h.
Mae ei deulu wedi cyhoeddi teyrnged, gan ddweud: “Yr ydym wedi’n tristáu gan farwolaeth sydyn ein hannwyl Andrew Clark (Clarky).
“Yr oedd yn rhy ifanc o lawer i gael ei gymryd, ac roedd llawer mwy o fywyd ar ôl gydag ef i fyw.
“Mae’n gadael ei ddwy ferch ifanc, ei frodyr a’i chwiorydd, ei bartner, a’i gi bach, Loki.
“Roedd Andrew’n dad cariadus a oedd yn meddwl y byd o’i ddwy ferch.
“Gweithiodd yn galed i ddarparu ar eu cyfer, ac roedd yn garedig, hael, ac yn barod i helpu eraill.
“Roedd e’n dynnwr coes ac wrth ei fodd yn cael sbort a chellwair!
“Roedd Andrew wrth ei fodd â’i geir, beiciau modur a threulio amser gyda’i deulu.
“Ers blynyddoedd lawer, bu Andrew’n gweithio fel pysgotwr. Yr oedd yn mwynhau ei amser ar y môr, ac roedd bob amser yn barod i gynnig yr hyn yr oedd wedi’i ddal i’w anwyliaid.
“Bydd ei deulu a’i ffrindiau’n gweld eisiau Andrew’n fawr.
“Yr ydym wedi’n llorio gan y negeseuon o gariad, cydymdeimlad a chefnogaeth a dderbyniwyd, sydd wedi cynnig cysur wrth i bawb ohonom ddod i delerau â’r newyddion trist.”
Ychwanegodd y teulu eu diolch i’r gwasanaethau brys ac aelodau o’r cyhoedd a gynorthwyodd ar y dydd.
Mae’r heddlu’n parhau i apelio am dystion i’r gwrthdrawiad.
Gofynnir i unrhyw un a oedd yn teithio ar Ffordd Freeman ar y pryd ac a allai fod wedi gweld y digwyddiad hwn, neu sydd â darn ffilm camera cerbyd, gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys ar-lein ar https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/, drwy anfon e-bost at [email protected], neu drwy alw 101.
Os ydych chi’n fyddar neu’n drwm eich clyw, neu os oes gennych nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys 07811 311 908. Fel arall, cysylltwch â’r elusen annibynnol Taclo’r Tacle yn ddienw drwy alw 0800 555111, neu drwy alw heibio i crimestoppers-uk.org.
Dyfynnwch gyfeirnod: DP-20220826-338.