Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dynes a dorrodd gorchymyn atal naw gwaith drwy gysylltu â’i thad oedrannus wedi’i charcharu.
Mae’r ddynes 35 oed wedi’i hatal rhag cysylltu â’i thad ar ôl iddi ymosod arno, gan achosi anafiadau i’w wyneb.
Adroddwyd am y digwyddiad drwy alwad 999 i Heddlu Dyfed-Powys ym mis Rhagfyr 2022, yn ystod pa un y gellid clywed llais dynes yn y cefndir yn gwneud bygythiadau.
Aeth swyddogion yn syth i’r cyfeiriad, gan ddod o hyd i ddyn oedrannus ag anafiadau i’w wyneb – yn ffodus, nid oeddent yn rhai difrifol, ond roedd wedi cael ysgytwad ac yn ofni y gallai ei ferch ddod nôl.
Oherwydd ei hymddygiad a’r bygythiadau a wnaed, categorïwyd y digwyddiad fel cam-drin domestig perygl uwch.
Arestiwyd y ferch yn syth, ac fe’i cyhuddwyd ar yr un diwrnod o ymosod drwy guro ac o ymosod ar weithiwr brys.
O fewn wythnos, roedd hi wedi ymddangos yn y llys ac wedi’i dedfrydu i 12 wythnos o garchar. Rhoddwyd gorchymyn atal 12 mis yn ei hatal rhag cysylltu â’i thad mewn grym hefyd.
Fodd bynnag, cafodd ei rhyddhau ar drwydded hanner ffordd drwy ei dedfryd, a buan iawn y torrodd y gorchymyn atal drwy berswadio ei thad i ymweld â’i chartref, gan fygwth niweidio ei hun pe na bai’n gwneud hynny.
Galwyd yr heddlu ac fe’i harestiwyd a’i galw yn ôl i’r carchar ar gyfer gweddill ei dedfryd.
Fodd bynnag, ers hynny, mae hi wedi torri’r gorchymyn atal droeon. Cyflwynwyd rhestr o gyswllt mae hi wedi ysgogi ers iddi gael ei rhyddhau o’r carchar i’r llys. Yr oedd yn manylu naw digwyddiad lle mae hi wedi torri ei gorchymyn atal, gan ddefnyddio ymddygiad rheolaethol ac ystrywgar sydd wedi achosi poen meddyliol, corfforol ac ariannol i’w thad.
O ganlyniad i’r achosion hyn, mae hi wedi’i charcharu am 12 mis yn awr.
Dywedodd swyddog yr achos, y Ditectif Ringyll Zoe Powell: “Mae gorchmynion atal yn cael eu rhoi mewn grym er mwyn gwarchod dioddefwyr rhag troseddwyr, ac ry’n ni’n trin pob tor o ddifrif.
“Mae’r ffaith bod y diffynnydd yn yr achos hwn wedi torri ei gorchymyn llys naw gwaith mewn amser mor fyr yn dangos ei diffyg gofal a thosturi tuag at ei thad oedrannus, a’i dyfalbarhad wrth iddi barhau i achosi niwed iddo.
“Gobeithiwn ei fod yn teimlo ei fod yn medru byw’n ddiogel nawr bod ei ferch wedi derbyn dedfryd o 12 mis o garchar. Gobeithio y bydd hi’n derbyn y cymorth a’r amser sydd angen arni i adlewyrchu a newid.”