Stamp amser presennol: 10/12/23 20:10:39
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleolUchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainTwitterHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Go to Dyfed Powys Police homepage

Chwilio’r wefan hon

Prif ddewislen llywio

  • Riportio

    Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Riportio camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Riportio sbeicio
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Riportio trosedd gasineb
  • Rhoi gwybod i ni

    Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Llwythi annormal
  • Gwneud cais neu gofrestru

    Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Cais

    Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Diolchiadau a chwynion

    Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Gwneud cwyn
    • Dweud diolch
    • Adborth am y wefan

Gwerthu’r hen orsaf yng nghanol tref Llanelli

Cynnwys y prif erthygl

Llywio

Sir Gaerfyrddin

Cyhoeddwyd: 14:28 02/08/23

Bydd hen orsaf a dalfa Llanelli’n cau ac yn mynd ar werth, yn unol â newidiadau ehangach a fydd yn moderneiddio a gwella’r gwasanaeth plismona yn Sir Gaerfyrddin.

Nawr bod canolfan amlbwrpas newydd sbon Heddlu Dyfed-Powys yn ardal Dafen yn ar waith yn llawn (ers mis Mai 2023), nid oes gofyniad gweithredol bellach ar gyfer yr hen orsaf heddlu yn y dref.

Bydd y Tîm Plismona Bro’n parhau i weithio o’u canolfan yng nghanol y dref, gan sicrhau presenoldeb amlwg ac ymgysylltu effeithiol â phreswylwyr a busnesau.

Mae’r cau hwn yn rhan o raglen newid ar draws Heddlu Dyfed-Powys, lle mae ystadau, technoleg a’r offer sydd ar gael i swyddogion a staff yn dod at ei gilydd i wella plismona a’r gwasanaeth i gymunedau.

Dywedodd y Prif Gwnstabl, Dr Richard Lewis:

“Gwnaed y penderfyniad hwn yn dilyn gwerthuso gofalus i wneud y defnydd gorau o adnoddau a chyflwyno gwasanaeth heddlu effeithiol sy’n bodloni anghenion a disgwyliadau ein cymunedau. 

“Mae’r ganolfan heddlu amlbwrpas newydd yn ardal Dafen yn gam ymlaen o ran moderneiddio a gwella ein gwasanaethau, gan alluogi swyddogion i barhau â’u gwaith yn fwy effeithiol ac effeithlon. 

“Gwnaed y penderfyniad i gau a gwerthu’r hen orsaf â budd gorau trethdalwyr a’r gymuned mewn cof hefyd, gan nad yw’r orsaf bresennol yn angenrheidiol nac yn addas ar gyfer y diben mwyach.  

“Rydw i eisiau sicrhau’r gymuned leol fod Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i gynnal yr un lefel o wasanaeth a chymorth ar gyfer ein cymunedau lleol, ac na fydd preswylwyr a busnesau yn Llanelli’n gweld unrhyw wahaniaeth.

“Bydd eich tîm plismona bro lleol yn parhau i ddarparu presenoldeb amlwg ac ymgysylltu effeithiol â phreswylwyr a busnesau.”

Bydd yr adeilad ar Heol yr Hen Gastell, Llanelli, yn mynd i’r farchnad yn ystod y dyddiau nesaf.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:

“Yn hanesyddol, mae sôn am symud canolfannau heddlu neu gau a gwerthu gorsafoedd wedi sbarduno naratif o heddlu’n symud allan o gymunedau, ofnau am amseroedd ymateb, a phryderon am gynnydd mewn trosedd ac anhrefn.

“Fodd bynnag, mae’r Prif Gwnstabl, Dr Richard Lewis, wedi fy sicrhau na fydd unrhyw wahaniaeth yn lefel y gwasanaeth i’r cyhoedd yn Llanelli o ganlyniad i’r penderfyniad ystadau hwn.

“Ym mis Mai eleni, agorom ddalfa a chanolfan Heddlu gynaliadwy amlbwrpas newydd ar gyrion Llanelli, yn ardal Dafen. Mae’r cyfleuster newydd hwn ar gyfer Sir Gaerfyrddin yn gam ymlaen o ran moderneiddio a gwella ein gwasanaethau.

“Fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, rwyf eisiau sicrhau’r cyhoedd fod ein hymrwymiad tuag at sicrhau diogelwch ein cymunedau dal yn flaenoriaeth inni, er waethaf y penderfyniad anodd i gau a gwerthu’r orsaf.

“Rwy’n cydnabod y gall newid fod yn heriol, ond gallaf eich sicrhau y bydd y cam strategol hwn yn caniatáu Heddlu Dyfed-Powys i bennu adnoddau’n fwy effeithlon ac yn gwella eu hymdrechion plismona.

“Yn yr oes ddigidol hon, yr ydym yn ffodus i gael sianeli amrywiol drwy ba rai y gall pobl gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys. Yn ogystal â galwadau ffôn, yr ydym yn annog pobl i archwilio dulliau ar-lein a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddir gan yr Heddlu. Mae’r llwyfannau hyn yn aml yn darparu diweddariadau gwerthfawr, cyngor atal trosedd, a chyfleoedd ymgysylltu cymunedol, gan alluogi pobl i gysylltu ac ymgysylltu â’r heddlu a chael gwybod am faterion lleol.

“Drwy ddefnyddio’r sianeli amgen hyn, gyda’n gilydd, medrwn gyfrannu at blismona mwy effeithiol ac ymatebol, gan alluogi Heddlu Dyfed-Powys i ganolbwyntio ar sefyllfaoedd argyfyngus, ac ar yr un pryd, mynd i’r afael ag anghenion â phryderon ein cymuned.

“Os oes gan unrhyw un gwestiynau neu bryderon, fe’ch anogaf i gysylltu â’m swyddfa. Yr ydym yn gwerthfawrogi eich mewnbwn a’ch cefnogaeth barhaus o ran sicrhau diogelwch a lles ein cymunedau.”

Gall cymunedau lleol gyfrannu at blismona mwy effeithlon ac ymatebol drwy ddefnyddio dulliau cysylltu ar-lein. Os oes angen yr heddlu arnoch pan nad yw’n argyfwng, cewch gysylltu â nhw drwy neges uniongyrchol ar Facebook, Twitter neu Instagram, ar-lein, drwy anfon e-bost at [email protected], neu drwy alw 101. Os ydych chi’n fyddar neu’n drwm eich clyw, neu os oes gennych nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys 07811 311 908.

Dilynwch eich Timoedd Plismona Bro lleol ar gyfryngau cymdeithasol drwy ddilyn Heddlu Llanelli ar Facebook a @DPPLlanelli ar Twitter i gael gwybodaeth am holl ddigwyddiadau ymgysylltu, apeliadau a newyddion yr heddlu. 

Os oes trosedd yn digwydd, neu os oes perygl i fywyd, perygl o anaf difrifol, neu ddifrod i eiddo, galwch 999 bob amser.

Rhannu

A oes rhywbeth o'i le ar y dudalen hon?

Llywio troedyn

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i'r wefan hon weithio.
 
Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich gosodiadau, deall sut mae pobl yn defnyddio'r wefan a gwneud gwelliannau.
 
Gweler gwybodaeth cwcis
 

Rwy'n iawn gyda hynny Dydw i ddim yn iawn gyda hynny

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2023. Cedwir pob hawl.