Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Digwyddodd y rhan fwyaf o’r arestiadau yn ystod yr wythnos ddiwethaf, yn dilyn pryder bod ymddygiad rhai protestwyr wedi gwaethygu o 14 – 16 Awst, gan arwain at ddifrod sylweddol i eiddo a thir y gwesty.
Mewn digwyddiad partneriaeth a gynhaliwyd neithiwr, clywodd preswylwyr sut y mae’r heddlu’n gweithio’n galed i sicrhau cydbwysedd rhwng hawliau’r cyhoedd i brotestio’n heddychlon a hawliau perchnogion y gwesty i gael mynediad i’r eiddo, a diogelwch y gymuned ehangach.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Ross Evans, Comander Sir Gaerfyrddin:
“Mae’n bleser gan fy swyddogion a minnau wasanaethu cymuned Ffwrnes, ac rydym yn dod i’r gwaith bob dydd er mwyn cadw’r ardal yn ddiogel i bawb sy’n byw a gweithio yno, a phawb sy’n ymweld â’r ardal. Yr ydym hefyd yn rhan o’r gymuned, a chydnabyddir bod yr wythnosau diwethaf wedi bod yn heriol iawn i bawb sy’n gysylltiedig â’r ardal.
“Fel heddlu, yr ydym yn cydnabod pryderon preswylwyr a gwrthdystwyr yn llawn. Yr ydym yn gwrando ar y pryderon hyn ac yn ymateb iddynt. Byddwn yn parhau i hwyluso gwrthdystio heddychlon, fodd bynnag, yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae ymddygiad rhai unigolion wedi mynd tu hwnt i hyn weithiau.
“Ni fyddwn yn caniatáu ymddygiad anghyfreithlon yn y digwyddiadau hyn. Pan fydd trosedd yn cael ei chyflawni, byddwn yn cymryd pob cam rhesymol a chymesur i ddwyn troseddwyr i gyfiawnder, ac mae camau gorfodi a gymerwyd yn ystod yr wythnos ddiwethaf wedi dangos hyn yn glir. Mae trigolion Sir Gaerfyrddin yn disgwyl i’w heddlu lleol eu cadw’n ddiogel, a dyna fyddwn ni’n parhau i’w wneud.
“Diogelwch cyhoeddus yw ein blaenoriaeth o hyd, a byddwn ni’n parhau i wrando ar bob parti, ac yn gweithio gyda nhw. Yn benodol, bwriadwn weithio gydag unrhyw grwpiau protest cyn unrhyw ddigwyddiadau fel ein bod ni’n medru hwyluso gwrthdystiad heddychlon.”
Ers dechrau Gorffennaf, mae 17 unigolyn wedi’u harestio 21 o weithiau i gyd mewn cysylltiad â’r brotest yng Ngwesty Parc y Strade yn ardal Ffwrnes, Llanelli. Mae gan y rhan fwyaf o’r bobl a arestiwyd amodau mechnïaeth sy’n eu hatal rhag mynd i’r ardal o gwmpas y gwesty, Llanelli neu Gymru.
Mae’r ymchwiliad i ymddygiad afreolus rhai protestwyr yr wythnos diwethaf, a arweiniodd at ddifrod helaeth i’r gwesty, yn parhau. Mae swyddogion yn rhagweld y bydd rhagor o arestiadau yng nghyswllt y mater hwn.
Ar 18 Awst, cafwyd Emmanuel Agius, 37 oed, o Lys Y Morwr, Llanelli, yn euog o feddu ar dri arf bygythiol (cyllyll) a chyffur dosbarth b (canabis) yng nghyswllt y digwyddiadau hynny. Rhoddwyd dedfryd wedi’i gohirio iddo o 16 wythnos a gofyniad cyrffyw.
Mae tîm ymchwilio penodol wedi’i sefydlu mewn ymateb i hyn, ac ymysg ymholiadau eraill, maen nhw’n adolygu llawer iawn o ddeunydd fideo.
Anogir unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu gyda’r ymchwiliad hwn i adrodd amdani drwy un o’r dulliau canlynol:
Cewch hefyd gysylltu â Crimestoppers Cymru yn ddienw drwy alw 0800 555 111, neu drwy alw heibio i crimestoppers-uk.org. Os ydych chi’n fyddar neu’n drwm eich clyw, neu os oes gennych nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys 07811 311 908.