Stamp amser presennol: 03/08/2026 23:06:06
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Gwerthu Gorsaf Heddlu Saundersfoot

Cynnwys y prif erthygl

Sir Benfro
Cyhoeddwyd: 14:34 02/08/2023

Mae’r orsaf heddlu yn Saundersfoot yn cau a bydd yr adeilad yn cael ei werthu, yn unol â newidiadau ehangach a fydd yn moderneiddio ac yn gwella’r gwasanaeth plismona yn Sir Benfro.

Bydd swyddogion sy’n gwasanaethu cymuned Saundersfoot yn parhau i weithio o’u canolfan yng Ngorsaf Heddlu Dinbych-y-pysgod, sy’n llai na 4 milltir i ffwrdd, ac yn parhau i sicrhau presenoldeb amlwg ac ymgysylltu effeithiol gyda phreswylwyr a busnesau yn Saundersfoot.

Mae’r symudiad hwn yn rhan o raglen newid ar draws Heddlu Dyfed-Powys, lle mae ystadau, technoleg a’r offer sydd ar gael i swyddogion a staff yn dod at ei gilydd i wella plismona a’r gwasanaeth i gymunedau.

Dywedodd y Prif Gwnstabl, Dr Richard Lewis:

“Gwnaed y penderfyniad hwn yn dilyn gwerthuso gofalus i wneud y defnydd gorau o adnoddau a chyflwyno gwasanaeth heddlu effeithiol sy’n bodloni anghenion a disgwyliadau ein cymunedau. 

“Mae cau a gwerthu gorsaf heddlu Saundersfoot yn gam ymlaen o ran moderneiddio a gwella ein gwasanaethau, gan alluogi swyddogion i barhau â’u gwaith yn fwy effeithiol ac effeithlon.

“Gwnaed y penderfyniad hwn â budd gorau trethdalwyr a’r gymuned mewn cof. Nid yw’r orsaf bresennol yn weithredol mwyach gan nad yw’n bodloni gofynion plismona’r oes fodern ac mae’n ddrud i’w rhedeg. 

“Rydw i eisiau sicrhau’r gymuned leol fod Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i gynnal yr un lefel o wasanaeth a chymorth ar gyfer ein cymunedau lleol, ac na fydd preswylwyr a busnesau yn Saundersfoot yn gweld unrhyw wahaniaeth.

“Bydd eich tîm plismona bro lleol yn parhau i ddarparu presenoldeb amlwg ac ymgysylltu effeithiol â phreswylwyr a busnesau.”

Bydd yr adeilad yn Nheras Wogan, Saundersfoot, yn mynd i’r farchnad yn ystod y dyddiau nesaf.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:

“Yn hanesyddol, mae sôn am symud canolfannau heddlu neu gau a gwerthu gorsafoedd wedi sbarduno naratif o heddlu’n symud allan o gymunedau, ofnau am amseroedd ymateb, a phryderon am gynnydd mewn trosedd ac anhrefn.

“Fodd bynnag, mae’r Prif Gwnstabl, Dr Richard Lewis, wedi fy sicrhau na fydd unrhyw wahaniaeth yn lefel y gwasanaeth i’r cyhoedd yn Saundersfoot o ganlyniad i’r penderfyniad ystadau hwn.

“Fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, rwyf eisiau sicrhau’r cyhoedd fod ein hymrwymiad tuag at sicrhau diogelwch ein cymunedau dal yn flaenoriaeth inni, er waethaf y penderfyniad anodd i gau a gwerthu’r orsaf.

“Rwy’n cydnabod y gall newid fod yn heriol, ond gallaf eich sicrhau y bydd y cam strategol hwn yn caniatáu Heddlu Dyfed-Powys i bennu adnoddau’n fwy effeithlon ac yn gwella eu hymdrechion plismona.

“Yn yr oes ddigidol hon, yr ydym yn ffodus i gael sianeli amrywiol drwy ba rai y gall pobl gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys. Yn ogystal â galwadau ffôn, yr ydym yn annog pobl i archwilio dulliau ar-lein a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddir gan yr Heddlu. Mae’r llwyfannau hyn yn aml yn darparu diweddariadau gwerthfawr, cyngor atal trosedd, a chyfleoedd ymgysylltu cymunedol, gan alluogi pobl i gysylltu ac ymgysylltu â’r heddlu a chael gwybod am faterion lleol.

“Drwy ddefnyddio’r sianeli amgen hyn, gyda’n gilydd, medrwn gyfrannu at blismona mwy effeithiol ac ymatebol, gan alluogi Heddlu Dyfed-Powys i ganolbwyntio ar sefyllfaoedd argyfyngus, ac ar yr un pryd, mynd i’r afael ag anghenion â phryderon ein cymuned.

“Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, fe’ch anogaf i gysylltu â’m swyddfa. Yr ydym yn gwerthfawrogi eich mewnbwn a’ch cefnogaeth barhaus o ran sicrhau diogelwch a lles ein cymunedau.”

Gall cymunedau lleol gyfrannu at blismona mwy effeithlon ac ymatebol drwy ddefnyddio dulliau cysylltu ar-lein. Os oes angen yr heddlu arnoch pan nad yw’n argyfwng, cewch gysylltu â nhw drwy neges uniongyrchol ar Facebook, Twitter neu Instagram, ar-lein, drwy anfon e-bost at [email protected], neu drwy alw 101. Os ydych chi’n fyddar neu’n drwm eich clyw, neu os oes gennych nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys 07811 311 908.

Dilynwch eich Timoedd Plismona Bro lleol ar gyfryngau cymdeithasol drwy ddilyn Heddlu Dinbych-y-pysgod, Saundersfoot ac Arberth ar Facebook a @DPPTenby ar Twitter i gael gwybodaeth am holl ddigwyddiadau ymgysylltu, apeliadau a newyddion yr heddlu. Os oes trosedd yn digwydd, neu os oes perygl i fywyd, perygl o anaf difrifol, neu ddifrod i eiddo, galwch 999 bob amser. 

 

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.