Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yr ydym yn apelio am lonyddwch a chydweithrediad yn dilyn dwysâd sy’n peri pryder o ran ymddygiad rhai protestwyr ger Gwesty Parc y Strade, Llanelli, ers dydd Llun 14 Awst 2023.
Derbyniodd yr heddlu adroddiad ddydd Llun 14 Awst 2023 bod difrod troseddol wedi’i achosi i gerbyd a ddefnyddir gan gontractwr a gyflogir gan y gwesty wrth iddo yrru i ffwrdd o’r safle. Ers hynny, mae dyn wedi’i arestio a’i gyhuddo o’r drosedd hon.
Yn ystod y nos ar 15 Awst, tresmasodd nifer o bobl ar dir Gwesty Parc y Strade, gan ymddwyn yn fygythiol.
Gwnaed pum arést y prynhawn hwn mewn cysylltiad â digwyddiadau pellach yn y gwesty, ac mae ymholiadau’r heddlu’n parhau. Mae swyddogion dal yn y lleoliad er mwyn rhoi tawelwch meddwl i breswylwyr a’r gymuned.
Mae’r heddlu hefyd yn poeni am ymddygiad nifer o bobl sydd wedi’u gweld yn gwisgo balaclafas yn yr ardal. O ganlyniad, mae Gorchymyn Adran 60AA (Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994) wedi’i roi mewn grym. Mae hyn yn rhoi’r pŵer i swyddogion ofyn i unigolion dynnu unrhyw eitem y mae’r swyddog yn credu sy’n cael ei gwisgo er mwyn cuddio pwy ydyw. Mae’r gorchymyn hwn yn berthnasol ar gyfer ardal Gwesty Parc y Strade, Heol Pentrepoeth, a’r B4309 drwy Ffwrnes.
Byddwn bob amser yn anelu at hwyluso protest heddychlon, gan ddal y ddysgl yn wastad rhwng hawliau eraill, cadw’r cyhoedd yn ddiogel, ac atal trosedd ac anhrefn. Os yw trosedd yn cael ei chyflawni, byddwn yn cymryd pob cam rhesymol a chymesur i ddwyn troseddwyr i gyfiawnder.
Hoffai Heddlu Dyfed-Powys achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’r rhai sydd wedi gwrthdystio’n heddychlon dros yr wythnosau diwethaf ac annog unrhyw un sy’n bwriadu ymuno â’r brotest i ddilyn enghraifft trigolion lleol.
Os ydych chi’n bwriadu cynnal protest, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth am yr hyn sydd wedi digwydd ers dydd Llun, byddem yn eich annog i gysylltu â ni drwy ein gwefan ar https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni-beta/cysylltu-a-ni/, drwy anfon e-bost at [email protected], neu drwy alw 101. Os ydych chi’’n fyddar neu’n drwm eich clyw, neu os oes gennych nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys 07811 311 908.