Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Roedd y cyrchoedd, a ddigwyddodd fore ddydd Llun 21 Awst, yn rhan o Ymgyrch Burleigh, a oedd yn anelu i chwalu grŵp troseddu trefnedig llinellau cyffuriau y credwyd ei fod yn rhedeg nifer o linellau cyffuriau yn yr ardal.
Fel rhan o’r ymgyrch, gweithredwyd gwarantau mewn cyfeiriadau yn Aberystwyth, gyda gwarantau pellach gan swyddogion Heddlu Dyfed-Powys, gyda chymorth cydweithwyr o Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloger, mewn cyfeiriadau yn ardal Birmingham.
Mae pedwar unigolyn a arestiwyd ddydd Llun wedi’u cyhuddo o gynllwynio i werthu cyffuriau Dosbarth A, ac fe’u cadwyd yn y ddalfa tan iddynt ymddangos yn Llys Ynadon Aberystwyth heddiw (24 Awst).
Mae Akasha Smith, 23 oed, o Goedlan Tri, Penparcau, Aberystwyth, Toana Ahmad, 32 oed, o Lee Gardens, Smethwick, Gorllewin Canolbarth Lloegr, Davinder Singh, 36 oed, o Huntington Road, West Bromwich, a Luqman Shukri Jarjis, 31 oed, o Wakefield Court, Wakegreen Road, Birmingham, wedi’u dal yn y ddalfa am gyfnod hwy.
Ar hyn o bryd, mae tri dyn a arestiwyd yn Aberystwyth a Northampton ddoe dal yn nalfa’r heddlu.
Mae dynes o ardal Telford, a oedd hefyd wedi’i harestio ddoe, wedi’i rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.
Dywedodd y Prif Arolygydd Jonny Griffiths: “Mae Ymgyrch Burleigh wedi gweld swyddogion heddlu’n atafaelu llawer iawn o gocên a swm sylweddol o arian.
“Mae cyffuriau’n achosi niwed sylweddol i’n cymunedau, a dyna pam y mae mynd i’r afael â’r mater yn flaenoriaeth ar gyfer yr heddlu.”
Gwelodd yr ymgyrch swyddogion yn defnyddio tactegau o Ymgyrch Pester hefyd, gan ymgysylltu’n uniongyrchol â dros 300 o bobl â rhifau a oedd yn gysylltiedig â’r ffonau llinellau cyffuriau a ddefnyddiwyd gan y gwerthwyr.
Fe wnaeth hyn ganiatáu iddynt gynnig cyngor diogelu a gwneud cyfeiriadau i rwydweithiau cymorth, yn ogystal â chasglu cudd-wybodaeth werthfawr drwy ymgysylltu, sy’n helpu i dorri’r galw y mae gwerthwyr cyffuriau’n dibynnu arno yn ei dro.
Daeth yr heddlu ac asiantaethau partner, megis Bwrdd Prifysgol Hywel Dda, Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed, Cyngor Sir Ceredigion a’r Gwasanaeth Prawf at ei gilydd yn barod ar gyfer yr ymgyrch, gan eu galluogi i fod yn barod ar gyfer canlyniad y gwarantau.
Ychwanegodd y Prif Arolygydd Griffiths: “Roedd gweithio gyda phartneriaid yn elfen bwysig o’r ymgyrch hon, fel ein bod ni gyd mewn gwell sefyllfa i ymdrin â chanlyniad y gwarantau – o’r gwasanaeth prawf i’r adran dai, er mwyn cefnogi pobl i roi’r gorau i gyffuriau.”
Ychwanegodd Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion: “Mae’r cyngor yn falch o fod wedi cael y cyfle i weithio gyda Heddlu Dyfed-Powys a phartneriaid eraill ar Ymgyrch Burleigh.
“Mae defnyddio cyffuriau’n effeithio’n andwyol ar unigolion, teuluoedd a chymunedau, a bydd y cyngor yn cefnogi’r rhai yr effeithiwyd arnynt dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.”