Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dioddefodd tair dioddefwraig ifanc flynyddoedd o gam-drin rhywiol mynych gan ddyn o Drefyclo. Clywodd llys ei fod wedi gwneud iddynt gredu bod ei ymddygiad yn normal er mwyn parhau â’i droseddau.
Mae Matthew Aldridge, 56 oed, wedi’i ganfod yn euog o 27 trosedd rhywiol, gan gynnwys trais ac ymgais i dreisio, yn erbyn tair merch a dargedwyd ganddo yn ystod eu plentyndod.
Y mae wedi’i garcharu am oes, a bydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf 24 mlynedd yn y carchar.
Sara Hall, 46 oed, hefyd wedi’i dedfrydu i 10 mlynedd o garchar am wyrdroi cwrs cyfiawnder a chreulondeb yn erbyn plant am ganiatáu i’r troseddau ddigwydd, ac am annog un o’r dioddefwyr i newid ei thystiolaeth yn ei erbyn.
Roedd y pâr yn destun ymchwiliad dwys gan Heddlu Dyfed-Powys, a chyflwynwyd tystiolaeth i Lys y Goron yr Wyddgrug yn ystod yr achos llys 3 wythnos o hyd.
Clywodd y rheithgor sut y paratôdd Aldridge ei ddioddefwyr i bwrpas rhyw, gan wneud iddynt gredu bod ei ymddygiad yn normal er mwyn parhau â’i foddhad rhywiol dros 20 mlynedd.
Adroddodd un o ddioddefwyr Aldridge am ei droseddu yn 2016, fodd bynnag, anogodd Hall hi i newid y dystiolaeth a roddodd i’r heddlu. Arweiniodd honiad pellach yn 2019 at ddatgelu gwir raddau gweithredoedd Aldridge.
Dan arweiniad Adran Ymchwiliadau Troseddol Heddlu Dyfed-Powys, casglwyd tystiolaeth o gyfweliadau gyda dioddefwyr a’u datganiadau, datgeliadau a wnaed wrth y gwasanaethau plant a chwnsleriaid, a thrwy archwilio dyfeisiau digidol. Arweiniodd y gwaith hwn at gyhuddiadau lluosog yn cael eu dwyn yn erbyn Aldridge. Digwyddodd nifer o’r troseddau ar sawl achlysur:
Am ei rhan mewn caniatáu i’r troseddau ddigwydd, cyhuddwyd Hall o wyrdroi cwrs cyfiawnder, creulondeb yn erbyn plentyn o ran methu â diogelu plentyn, a chaniatáu i gam-drin rhywiol ailddigwydd er bod ganddi wybodaeth lawn o’r perygl o niwed rhywiol yr oedd Aldridge yn ei gyflwyno i blant.
Canfu’r pâr yn euog o’r troseddau hyn gan reithgor, a chawsant eu dedfrydu ddydd Iau 9 Tachwedd.
Yn ei areithiau dedfrydu, disgrifiodd Ei Anrhydedd y Barnwr Nic Parry ymddygiad Aldridge fel “ymgyrch gyfundrefnol a ffiaidd o drais a throseddau tebyg,” ac nad oedd “terfyn i lefel yr anfoesoldeb yn ei droseddu rhywiol er mwyn cael boddhad rhywiol.”
Disgrifiodd gweithredoedd Hall fel “brad ymddiriedaeth difrifol,” a chondemniodd ei hagwedd o “feio’r dioddefydd.”
Dywedir bod y trawma canlyniadol i’r dioddefwyr wedi cael effaith fawr a phellgyrhaeddol.
Gan siarad ar ran Heddlu Dyfed-Powys, dywedodd y swyddog yn yr achos, y Ditectif Gwnstabl Liz Evans, “Hoffwn ganmol cryfder a phenderfynoldeb y tair dioddefwraig yn yr achos hwn, a diolch iddynt am y gefnogaeth a’r cydweithrediad maen nhw wedi dangos i’n swyddogion.
“O ganlyniad i gyfnod hir y troseddu hwn, a’r holl dystiolaeth yr oedd angen ei hystyried, roedd yr ymchwiliad hwn yn un hir a dwys a oedd yn cynnwys nifer o dimoedd heddlu. Dangosodd pob dioddefydd ddewrder aruthrol drwy gydol ein hymholiadau, a gwerthfawrogwn nad oedd hyn yn hawdd iddynt.
“Nid yw’r troseddwyr wedi dangos edifeirwch am eu gweithredoedd ffiaidd, nac unrhyw empathi tuag at y dioddefwyr, gan ychwanegu at y gofid a’r trawma maen nhw eisoes wedi achosi’r menywod ifainc hyn. Gobeithiwn y bydd canlyniad heddiw’n mynd peth o’r ffordd i’w sicrhau nad oedd eu dewrder o ran codi eu llais yn ofer.
“Mae’n galonogol gweld bod Ymgyrch Soteria – prosiect cenedlaethol sy’n anelu i ddatblygu ffyrdd newydd o ymchwilio ac euogfarnu troseddwyr ar gyfer troseddau trais – yn arwain at gynnydd yn nifer y canlyniadau cadarnhaol ac euogfarnau. Mae’n rhaid bod hyn yn tawelu meddyliau dioddefwyr, ac rwy’n gobeithio y bydd yn parhau i wella hyder o ran adrodd am drais a throseddau rhywiol.”
Os ydych chi wedi dioddef trosedd, adroddwch amdano wrth Heddlu Dyfed-Powys ar-lein ar: https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni-beta/cysylltu-a-ni/, drwy anfon e-bost at [email protected], neu drwy alw 101.
Os ydych chi’n fyddar neu’n drwm eich clyw, neu os oes gennych nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys 07811 311 908.
Fel arall, cysylltwch â’r elusen annibynnol Taclo’r Tacle yn ddienw drwy alw 0800 555111, neu drwy alw heibio i www.crimestoppers-uk.org