Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu wedi dioddef tair blynedd o ymddygiad ‘diflino a rhyfedd’ gan ddyn a ffurfiodd y gred ‘wallgof’ mai ei blant biolegol ef oedd dwy chwaer a brawd.
Am resymau nad ydynt yn hysbys, ffurfiodd Robert Innes o Hendy-gwyn ar Daf y syniad yn 2020 mai ei ferch ef oedd dynes ifanc yr honnodd ei fod wedi gweld ar fws.
Ers hynny, y mae wedi cyflawni ymgyrch o stelcio, dychrynu, a cheisio cysylltu â hi a’i theulu, wedi’i argyhoeddi ei bod hi a’i brawd a’i chwaer wedi’u cymryd oddi wrtho drwy'r system gofal maeth flynyddoedd yn ôl.
Yr wythnos hon, ymddangosodd y dyn 52 oed yn y llys, lle y gwnaeth Heddlu Dyfed-Powys gais llwyddiannus ar gyfer Gorchymyn Gwarchod Rhag Stelcio amhendant, gan ddiogelu’r teulu rhag ei ymddygiad.
Dywedodd Sue Clarke, cyfreithiwr cyfreitha’r heddlu: “Mae hwn yn achos anarferol iawn, lle mae pedwar dioddefydd – mam a’i thri o blant, sy’n oedolion.
“Tra bod Innes yn ddieithryn i bawb ohonynt, ffurfiodd y syniad bod y tri phlentyn yn blant biolegol iddo, a’u bod nhw wedi’u cymryd oddi wrtho. Y mae hefyd yn credu mai rhywun arall y cafodd berthynas â hi flynyddoedd yn ôl yw eu mam.
“Mae ei ymddygiad wedi codi braw ar y teulu, ac roeddem yn benderfynol o archwilio’r holl ddewisiadau sydd ar gael i’w diogelu nhw.”
Rhoddwyd gorchymyn gwarchod rhag stelcio dros dro mewn grym yn Llys y Goron Llanelli ar 26 Hydref, fodd bynnag, gofynnodd Heddlu Dyfed-Powys i’r llys ystyried gorchymyn heb ddiwedd, a ganiatawyd ddydd Iau 14 Rhagfyr.
Clywodd y llys fod Innes wedi cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol yn 2020, yn gofyn am gymorth i gysylltu â dynes ifanc a welodd ar fws yr oedd ganddo ‘deimladau cryf’ mai ei ferch ef a gafodd ei mabwysiadau ydoedd.
Ym mis Mawrth y flwyddyn ganlynol, galwodd heibio i gartref y teulu gan esgus bod yn dditectif preifat yn chwilio am rywun a fabwysiadwyd 21 mlynedd yn ôl.
Yr hyn a ddilynodd oedd cyfres o ymddygiad stelcio, gydag Innes yn mynd i gartref a gweithle’r fam ac yn mynd at gymdogion a chydweithwyr gan ofyn am wybodaeth am y teulu.
Ychwanegodd Mrs Clarke: “Y ferch hynaf oedd prif ffocws ei sylw, ond mae’r pedwar aelod teulu wedi’u stelcio a’u targedu’n gorfforol neu ar-lein.
“Y mae wedi ysgrifennu llythyrau a galw heibio gydag anrhegion, esgus bod yn weithiwr cymdeithasol – gan wisgo cordyn – wrth fynd at gymydog i ofyn am wybodaeth am y teulu, a dilyn y ferch hynaf yn ddiflino, gan gynnwys sefyll tu ôl iddi mewn ciw yn y sinema.
“Adroddodd cymydog bod tri dyn ifanc wedi galw i’w gweld ‘ar ran Bob’ hefyd, a’i gadawodd yn teimlo’n ofnus ac wedi’i dychrynu.”
Esboniodd datganiad gan y fam yr ofn y mae Innes wedi achosi i’w theulu.
“Mae’n ymddangos yn ddyfeisgar iawn ac yn llawn dychymyg,” meddai. “Mae’n ddyn mawr, ac er nad ydyw wedi cyflwyno bygythiad corfforol hyd yn hyn, rwy’n poeni bod mwy o siawns y gallai newid ei ymddygiad a’i agwedd po fwyaf y mae ei ymdrechion i gysylltu’n cael eu rhwystro.
“Mae’n gwybod ble mae fy mab i’n byw, lle’r wyf innau’n byw a gweithio, ac efallai bydd yn llwyddo i gael gafael ar fanylion cyswllt ar gyfer fy merched.”
Drwy ganiatáu’r gorchymyn gwarchod rhag stelcio amhendant, cyfeiriodd y Barnwr Rhanbarth Layton at yr “honiad gwallgof mai ef yw tad y plant hyn” a disgrifiodd ei ddiddordeb yn y chwaer hynaf fel “diddordeb afiach”.