Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Defnyddiodd yr Heddlu ddarnau ffilm TCC i ddod o hyd i ddyn a drywanodd dieithryn yng nghanol tref Llanelli, gan ddefnyddio dim ond disgrifiad a roddwyd gan y dioddefydd i ddod o hyd iddo.
Roedd swyddogion Heddlu Dyfed-Powys yn medru olrhain y llwybr a gymerwyd gan Gary Douglas Evans i leoliad y digwyddiad lle y trywanodd ddyn â chyllell gegin ar 9 Tachwedd ac oddi yno.
Pan ymddangosodd yn Llys y Goron Abertawe i gael ei ddedfrydu, clywodd y llys sut y gellid gweld y dyn 41 oed o Heol Brynmor ar gamerâu TCC yn cerdded tuag at Neuadd y Dref, Llanelli. Yno, gofynnodd i ddyn am gael defnyddio ei ffôn.
Pan wrthododd y dyn, trywanodd Evans ef ddwywaith yn yr abdomen gyda chyllell a rhedodd i ffwrdd.
Anfonwyd swyddogion arfog i’r lleoliad yn syth, ac fe ddechreuon nhw chwilio am Evans gan ddefnyddio’r disgrifiad a roddwyd gan y dioddefydd.
Siaradwyd â thystion, a ddywedodd ei fod wedi bod yn trafod sawl cyllell gegin, a chwiliwyd TCC byw. O ganlyniad, cafodd Evans ei adnabod fel y troseddwr, ac fe’i gwelwyd ar gamera’n cerdded drwy ganol y dref â chyllell gegin fawr yn hongian allan o’i boced.
Cafodd ei arestio’n gyflym a’i gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad.
Fe’i dedfrydwyd yr wythnos hon i saith mlynedd o garchar am y drosedd.
Dywedodd Ditectif Gwnstabl 128 Adams: “Roedd yr ymchwiliad hwn yn gyflym ond manwl, gan ddefnyddio nifer o dactegau i ddod o hyd i’r troseddwr a’i arestio.
“Nid oedd y dioddefydd yn medru adnabod Evans gan mai dieithryn ydoedd, fodd bynnag, gan ddefnyddio’r disgrifiad a roddodd o’i liw gwallt, taldra a dillad, roedd modd inni wirio’r holl gamerâu TCC yn yr ardal i ddod o hyd iddo’n gyflym.
“Gyda nifer o dimoedd gwahanol yn cydweithio i gasglu a sicrhau tystiolaeth, roedd modd inni ddal troseddwr peryglus a oedd yn meddu ar arfau a allai fod wedi cyflwyno bygythiad i eraill yn gyflym.”