Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddiw, mae dyn 48 oed a achosodd merch yn ei harddegau i ddioddef ymosodiad rhywiol a threisgar 12 awr o hyd wedi derbyn dedfryd estynedig o 30 mlynedd yn Llys y Goron Abertawe.
Herwgipiodd Phillip Andrew Williams o Sgwâr y Farchnad, Llanymddyfri, y ferch ar nos Fawrth 2 Awst 2022. Dygodd ei ffôn symudol a daliodd sgriwdreifer i’w gwddf, a’i gorfodi i yfed alcohol a chymryd cocên cyn clymu ei dwylo a’i threisio mewn cae yn ardal Llanymddyfri.
Yna, llusgodd Williams hi i mewn i gerbyd a oedd wedi’i ddwyn ac ymosod arni’n gorfforol eto cyn gyrru i Barc Gwledig Margam dan ddylanwad.
Ym Margam, ceisiodd Williams lusgo’r dioddefydd tuag at fynydd, fodd bynnag, llwyddodd i fachu ei ffôn symudol a rhedeg i ffwrdd cyn hysbysu’r heddlu fore ddydd Mercher 3 Awst.
Cyrhaeddodd swyddogion ychydig yn ddiweddarach a chanfod y ferch â mwd drosti ac mewn gofid mawr.
Datgelodd beth oedd wedi digwydd iddi, gan arwain yr heddlu i ganfod lleoliad ei hymosodiad cychwynnol. Yno, daethant o hyd i dystiolaeth a oedd yn ateb ei disgrifiad o’r ymosodiad, sef esgidiau rhedeg a dillad isaf y dioddefydd, sgriwdreifer a darn o raff glas mewn mwd gwlyb.
Yn y cyfamser, ceisiodd Williams osgoi’r heddlu a dechreuodd swyddogion o Heddlu Dyfed-Powys a Heddlu De Cymru chwilio amdano. Daethpwyd o hyd iddo’n gyflym. Cafodd ei arestio, ac mewn dim ond 36 awr, cafodd ei gyhuddo a’i remandio i’r llys.
Y cyhuddiadau yn ei erbyn oedd:
Er y dystiolaeth yn ei erbyn, plediodd Williams yn ddieuog i’r holl gyhuddiadau, gan orfodi ei ddioddefydd i fynd trwy’r profiad o dreial, a ddechreuodd ddydd Llun 23 Ionawr yn Llys y Goron Abertawe.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Arolygydd Dale Thomas: “Rywsut neu’i gilydd, meddyliodd Williams y gallai osgoi cael ei gosbi am yr hyn a wnaeth, ond diolch i ymdrechion y tîm ymchwilio a dewrder y dioddefydd, yn dilyn treial a barodd pum diwrnod, cafodd y rheithgor ef yn euog o bob cyhuddiad mewn dim ond 40 munud.
“Gweithiodd y swyddog yn yr achos, y Ditectif Gwnstabl Jade Probert, yn ddiflino er mwyn paratoi a chwblhau achos llawn a chynhwysfawr ar gyfer y llys, ac ar yr un pryd, rhoddodd gymorth ac arweiniad drwy gydol y broses i’r dioddefydd.
“Roedd modd inni sicrhau nad oedd rhaid i’r dioddefydd fynd i’r llys i roi ei thystiolaeth, ond heb os, byddai’r ffaith bod ei hymosodwr wedi gwrthod derbyn yr hyn a wnaeth wedi ychwanegu at y boen a achosodd iddi.
“Hoffwn ganmol y dioddefydd am y dewrder y mae wedi dangos drwy gydol yr ymchwiliad.
“Rwy’n gobeithio bod hyn yn sicrhau pobl na fydd Heddlu Dyfed-Powys yn dioddef troseddau mor erchyll ac yn rhoi hyder i unrhyw un sydd wedi dioddef ymosodiad o’r fath i ddod ymlaen.”
“Byddwn ni’n gwrando ac yn gweithio’n ddiflino i gael cyfiawnder ichi.”
Roedd Williams nôl yn Llys y Goron Abertawe heddiw pan gafodd ei ddedfrydu i 22 mlynedd o garchar, wedi’i estyn am 8 mlynedd ar drwydded.